400 o ffoaduriaid Wcráin i dderbyn gwersi Saesneg am ddim yng Nghymru
Bydd hyd at 400 o bobl sydd wedi ffoi o Wcráin i Gymru yn cael cynnig gwersi Saesneg yn rhad ac am ddim er mwyn gwella eu cymwysterau, fel rhan o raglen newydd.
Mae'r cynllun yn rhan o ymgyrch i alluogi ffoaduriaid Wcráin i “integreiddio ymhellach” i gymunedau yng Nghymru, ac er mwyn rhoi’r adnoddau iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd, dywedodd Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl i’r gwersi, sy’n cael eu cynnal ar-lein, ddechrau ym mis Medi – a rheiny’n cael eu cyflwyno ledled y DU.
Bydd hyd at 10,000 o bobl Wcráin sydd bellach yn byw ym Mhrydain yn cael mynychu’r sesiynau am ddim.
Bydd oddeutu 20 awr o sesiynau yn cael eu cynnal bob wythnos, dros gyfnod o 10 wythnos.
Bydd cymorth ychwanegol hefyd yn cael ei roi dros gyfnod o 12 wythnos i unigolion sydd eisiau ceisio am swyddi yn y DU.
Mae'n cynnwys cyngor ar sut i ddod o hyd i swyddi, cefnogaeth gydag ysgrifennu CV a chyfleoedd i ymarfer cyfweliadau â chyflogwyr.
Daw’r cyhoeddiad ar ddiwrnod arbennig i bobl Wcráin, sef Diwrnod Annibyniaeth y wlad.
Dyfodol
Hyd at 14 Awst, mae 184,000 o ffoaduriaid sydd â fisa ‘Cynllun Wcráin’ wedi ffoi i’r wlad, yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y DU.
Ac mae oddeutu 52% o rheiny yn bwriadu aros yn y DU, medd ymchwil diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl a gafodd eu holi eu bod yn bwriadu aros hyd yn oed os y byddai'n ddiogel i ddychwelyd i'w mamwlad, gan fod mwy o gyfleoedd am swyddi yn DU.
Dywedodd Felicity Buchan, sef gweinidog dros dai a digartrefedd Llywodraeth y DU: “Mae Diwrnod Annibyniaeth Wcráin yn gyfle i ddathlu diwylliant a thraddodiadau’r wlad, yn ogystal â'n gwerthoedd rydym yn eu rhannu.
“Fe fydd gwersi iaith Saesneg a chymorth cyflogaeth yn ychwanegu at y cymorth sydd eisoes ar gael i helpu pobl o Wcráin ddod o hyd i swyddi ac ymgartrefu yn ein cymunedau tra nad yw’n ddiogel dychwelyd i Wcráin.”
Yr elusen World Jewish Relief sydd wedi cael ei chomisiynu i gyflwyno’r rhaglen mewn partneriaeth â'r Cyngor Prydeinig ar draws pedair gwlad y DU. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhan o’r ymarfer caffael.
Dywedodd Paul Anticoni, sef Prif Weithredwr World Jewish Relief: “Rydym yn falch o’r gwahaniaeth mae World Jewish Relief yn ei wneud, ac yn parhau i wneud wrth ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i’r rheiny a gafodd eu gorfodi i ffoi oherwydd rhyfela.
“Bydd y rhaglen hollbwysig yma yn ein galluogi ni i gynnig cymorth iaith a chyflogaeth fydd yn drawsnewidiol i filoedd o bobl Wcráin sy'n ceisio ail-adeiladu eu bywydau yn y DU, gan wneud hynny mewn partneriaeth â'r Cyngor Prydeinig.”
Llun: Llywodraeth Cymru.