‘Dw i ddim yn nerfus’: Bachgen o Wcráin yn disgwyl canlyniad TGAU Cymraeg
‘Dw i ddim yn nerfus’: Bachgen o Wcráin yn disgwyl canlyniad TGAU Cymraeg
"Dw i ddim yn nerfus."
Dyna eiriau Bohdan Syvak, bachgen o Wcráin sydd ymysg sawl disgybl arall sy'n disgwyl am eu canlyniad TGAU Cymraeg ddydd Iau.
Bu’n rhaid i deulu Bohdan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Porthcawl, ffoi o Wcráin ym mis Mawrth y llynedd.
Arhosodd y teulu yn yr Almaen am chwe wythnos, cyn symud i Gymru a chael croeso cynnes gan deulu ym Mhorthcawl.
Fe wnaeth Bohdan sefyll ei arholiad llafar TGAU Cymraeg yn gyntaf, ac yna tri arholiad arall i asesu ei sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Wrth aros am ei ganlyniad TGAU Cymraeg ddydd Iau, dywedodd Bohdan: "Dwi ddim yn nerfus am Cymraeg TGAU, achos dysgais i Cymraeg llafar gyda Miss Lloyd.
"Byddai yn mynd i'r coleg yn Pencoed i astudio pêl-droed a chwaraeon, a hoffwn i chwarae pêl-droed yn broffesiynol, a hoffwn i siarad Cymraeg ar lefel dda yn y dyfodol."
'Ymrwymo i ddysgu'r iaith'
Ychwanegodd athrawes Bohdan, Alison Lloyd, Pennaeth yr Adran Gymraeg yn yr ysgol, ei bod hi "mor falch" ohono.
"Dwi mor falch. Ma' 'di cael taith anodd iawn, wedi gadael Wcráin, wedi gadael ei deulu, ffrindiau yn Wcráin a wedi dod yma gyda gwên ar ei wyneb bob dydd a troi lan a dysgu'r iaith," meddai.
"Dyle fe fod yn falch o unrhyw radd oherwydd y daith mae 'di bod arno, a'r ffaith bod o wedi ymrwymo i ddysgu'r iaith a wedi mwynhau, a nawr ma'n gallu cyfathrebu yn yr iaith Gymraeg."