Newyddion S4C

Angen 'gwella' ward iechyd meddwl er mwyn gwarchod diogelwch a phreifatrwydd cleifion

24/08/2023
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Mae angen sicrhau gwelliannau i ward iechyd meddwl arbenigol ysbyty ym Mhort-Talbot, medd adroddiad newydd. 

Rhaid gwella ansawdd prosesau rhannu gwybodaeth Ward F yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot er mwyn sicrhau preifatrwydd a chyfrinachedd y cleifion, meddai’r adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. 

Fe ddaw yn dilyn arolygiad dirybudd a gafodd ei gynnal dros gyfnod o dri diwrnod yn ystod mis Mai eleni. 

Yn ystod yr arolygiad, gwelwyd bod bwrdd gwybodaeth ar gyfer y staff, a oedd yn cynnwys gwybodaeth bersonol cleifion, heb gael ei orchuddio gan beri risg posib o ran cyfrinachedd unigolion. 

Yn ôl yr adroddiad, mae hefyd angen gwella ansawdd cadw cofnodion cleifion er mwyn adlewyrchu eu hanghenion unigryw. 

Er bod lefelau staffio “yn briodol” er mwyn diogelu cleifion y ward, doedd cofnodion cleifion allweddol ddim yn gyfredol.

Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: “Mae'n gadarnhaol nodi ymroddiad y staff i ddarparu gofal diogel ac urddasol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. 

“Rydym wedi argymell nifer o welliannau o ganlyniad i'n harolygiad ac mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe weithredu mewn modd amserol. 

“Mae'r lleoliad wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y gwasanaeth yn erbyn hwn.”

‘Cynllun'

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Rydym yn croesawu adroddiad AGIC ac yn falch i weld ei fod yn cydnabod bod cleifion yn cael eu trin gydag urddas a sensitifrwydd, a bod yr adborth a dderbyniwyd gan gleifion yn gadarnhaol.

“Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu meysydd yr oedd angen eu gwella, ac rydym wedi datblygu cynllun manwl i fynd i’r afael a rhain. 

“Mae nifer o welliannau eisoes wedi cael eu gwneud, gan gynnwys ailaddurno Ward F gyda dodrefn newydd, sefydlu grŵp garddio a datblygu amserlen weithgareddau. 

“Mae camau gweithredu pellach ar waith ac rydym yn disgwyl cyflawni yn fuan.”

‘Angen monitro’

Ond yn dilyn yr adroddiad, mae Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi mynegi eu “siom” ym mherfformiad yr ysbyty.

Maen nhw wedi galw ar y llywodraeth i adolygu’r broses cadw cofnodion yno. 

Dywedodd Russell George AS: “Roeddwn i wedi siomi i ddarllen adroddiad AGIC sy’n nodi nad ydyn nhw'n cwrdd ag anghenion gofal iechyd corfforol cleifion ac nad yw cofnodion yn adlewyrchu’r asesiadau sy’n cael eu cynnal yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. 

“Tra bod angen i glinigwyr leihau eu baich gwaith papur er mwyn sicrhau bod mwy o amser i ofalu am gleifion, mae angen i wybodaeth sylfaenol gael ei gadw’n gyfredol, ac mae'n rhaid parchu cyfrinachedd. 

“Rydym yn annog y llywodraeth Lafur i adolygu ymdrechion cadw cofnodion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac i sicrhau bod cynlluniau ar gyfer cleifion yn cael eu diweddaru, ac i sicrhau nad yw’n troi'n broblem gyffredin."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.