Lladradau'r Amgueddfa Brydeinig: Beirniadu honiad Groeg nad yw'r adeilad yn ddiogel
Mae cadeirydd grŵp seneddol amlbleidiol yr Amgueddfa Brydeinig wedi cyhuddo Gwlad Groeg o “achub cyfle” wrth honni nad yw’r sefydliad “yn ddiogel” yn dilyn lladradau o’r adeilad.
Mae'r Groegwyr wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau dros ddychwelyd cerfluniau i Wlad Groeg.
Cyhoeddodd yr Amgueddfa Brydeinig yr wythnos ddiwethaf bod eitemau o’i chasgliad naill ai “ar goll, wedi’u dwyn neu wedi’u difrodi.”
Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad. Ac mae'r amgueddfa wedi diswyddo aelod o staff, ac yn cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.
Dywedodd yr aelod seneddol Tim Loughton wrth raglen Today ar BBC Radio 4 fod y newyddion am eitemau ar goll o gasgliad yr amgueddfa yn Llundain yn “niweidiol” a bod y sefydliad yn cymryd y lladradau “o ddifrif”.
Ychwanegodd yr AS, sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r amgueddfa: “Mae pobol eisiau gwybod i ba raddau mae'r eitemau wedi diflanu, pa ymchwiliadau oedd yn cael eu cynnal ar yr adeg pan ddaeth adroddiadau amrywiol i'r amlwg a beth sy’n cael ei wneud nawr."
Nid yw’r amgueddfa wedi nodi faint o eitemau sydd wedi’u dwyn nac wedi cyhoeddi gwybodaeth fanwl am yr eitemau coll.
Maen nhw wedi cyfeirio at “ddarnau bychain” gan gynnwys “gemwaith aur a gemau o gerrig lled werthfawr, a gwydr yn dyddio o’r 15fed ganrif CC i’r 19eg ganrif OC”.
Mae'r Times wedi adrodd bod y lladradau wedi digwydd dros o leiaf ddau ddegawd.
Cwestiynu diogelwch
Yn sgil y lladradau mae Gwlad Groeg wedi dweud nad yw'r amgueddfa yn lleoliad diogel.
Mae'r wlad wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau dros ddychwelyd Cerfluniau Parthenon, a oedd unwaith yn adeilad y Parthenon ar ben yr Acropolis yn Athen.
Yn ogystal, maen nhw wedi honni ers tro bod y cerfluniau wedi eu hawlio yn anghyfreithlon. Mae swyddogion Prydeinig wedi gwrthod galwadau i'w rhoi i Wlad Groeg.
Dywedodd Mr Loughton: “Yr hyn sy’n arbennig o niweidiol yw'r Groegiaid yn achub cyfle, ac eraill yn dweud ‘O na, nid yw’r Amgueddfa Brydeinig yn ddiogel…’ Mae’n hynod o brin bod pethau’n mynd ar goll.”
Yn ôl Christopher Marinello, cyfreithiwr ac arbenigwr ym maes adfer celf, mae'r lladrad yn golygu fod yr amgueddfa'n agored i gwestiynau ynghylch diogelwch y cerfluniau hynafol.
“Mae’n gwneud i rywun feddwl tybed a yw Marblis Parthenon yn ddiogel yn yr Amgueddfa Brydeinig wedi’r cyfan, ac efallai y dylid eu dychwelyd i’r amgueddfa yn Athen er eu diogelwch.”
Mae adolygiad annibynnol ar ddiogelwch wedi’i sefydlu ac mae’r mater hefyd yn destun ymchwiliad gan awdurdod troseddau economaidd Heddlu Llundain.
Does neb wedi ei arestio.
Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan gyn-ymddiriedolwr yr amgueddfa Syr Nigel Boardman a Lucy D’Orsi, Prif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain.