Perchnogion yn datgelu mai teuluoedd fydd yn cael lloches mewn gwesty yn Llanelli
Mae sesiwn wybodaeth ar-lein wedi ei chynnal nos Fawrth i drafod pryderon lleol am gynllun i gartrefu 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli.
Dyma'r tro cyntaf i'r Swyddfa Gartref a Clearspring Ready Homes - y cwmni sydd yn rhedeg y safle - gymryd rhan mewn sesiwn gyhoeddus i drafod y cynlluniau.
Yn cael ei gadeirio gan y Canon Aled Edwards, cyn Brif Weithredwr Cytûn - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, roedd cynrychiolwyr ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys yn bresennol yn y sesiwn yn ogystal ag elusen Migrant Help.
Daeth y cynllun i'r amlwg ym mis Mai ond hyd yn hyn does dim ceiswyr lloches wedi eu cludo i'r adeilad. Yn y sesiwn nos Fawrth, dywedodd Tim Rymer, Dirprwy Gyfarwyddwr yn y Swyddfa Gartref bod tipyn o waith eto i'w gyflawni ar y safle: "Dyden ni ddim ar fin dechrau symud bobl yno", meddai.
Fe ychwanegodd ei fod yn “cydnabod fod y sefyllfa ymhell o fod yn ddelfrydol, ond mae'n angenrheidiol.”
Teuluoedd
Datgelodd Steven Lakey ar ran Clearspring Ready Homes mai teuluoedd, a rhai gyda phlant a fydd yn cael lloches yng ngwesty Parc y Strade, ac y bydd 241 o bobl yn cael eu symud yno dros gyfnod o amser: "Fydd neb yn cael ei symud yno nes bod y safle wedi ei ddatgan yn ddiogel," meddai.
"Ry'n ni'n cyd-weithio'n agos â'r elusen Migrant Help", ychwanegodd.
Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Mercher, dywedodd Aelod Seneddol Llafur Llanelli, y Fonesig Nia Griffith ei bod yn croesawu'r newyddion mai teuluodd fydd yn cael lloches yn yr adeilad, ond bod y manylion am y cynllun wedi eu cyhoeddi yn "hwyr hwyr iawn".
Cyfeiriodd at y trafodaethau rhwng y Swyddfa Gartref a Clearspring Ready Homes gan ddadlau y dylai cynrychiolwyr yn lleol fod wedi cyfrannu at y broses honno.
"Mae bobol yn grac. Dylen nhw fod wedi gofyn i ni sut i helpu nhw i roi cymorth gyda lloches".
"Mae prinder gwybodaeth yn dal i fod...dim dyddiad eto, dim manylion", meddai.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwrthwynebu'r cynllun gan ddadlau nad yw'n addas. A chafodd ymgais y cyngor i geisio atal y cynllun ei wrthod gan yr Uchel Lys fis Gorffennaf. Yn y sesiwn nos Fawrth, dywedodd Jake Morgan, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin bod y sefylla wedi creu rhaniadau a bod hwn yn gyfnod "trist."
"Mae'n ddrwg gennym weld y gwesty yn cau gyda chant o swyddi yn diflannu. Dyden ni ddim yn credu fod y safle yn ddiogel yn ymarferol, ac ry'n ni'n credu mai dyma'r lle anghywir i gefnogi pobl fregus", ychwanegodd.
Ysgolion
Cyfeiriodd Jake Morgan hefyd at y gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn yr ardal.
"Bydd yn creu heriau. Ond byddwn yn gwneud ein gorau i gwrdd â gofynion plant a'u teuluoedd, gan geisio gwneud yn siŵr nad yw ysgolion yn teimlo eu bod yn cael eu llethu," meddai.
Ers mis Mehefin mae protestiadau wedi eu cynnal ger y gwesty ac yn y cyfarfod nos Fawrth, apeliodd Steven Lakey ar ran cwmni Clearspring Ready Homes ar i bobl fod yn bwyllog gan ganiatáu i gontractwyr gael mynediad i'r safle i glirio unrhyw sbwriel.
Ymhlith y protestwyr dros yr wythnosau diwethaf, mae rhai trigolion lleol sy'n poeni am yr effaith yn yr ardal, grwpiau sy’n cefnogi ffoaduriaid a phobl sy'n gwrthwynebu cartrefu ceiswyr lloches yno.
18 wedi'u harestio
Ganol Awst, apeliodd Heddlu Dyfed-Powys ar i bobl brotestio mewn modd heddychlon, wedi i bump o bobl gael eu harestio ger y gwesty.
Yn y cyfarfod nos Fawrth, apeliodd yr Uwcharolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed-Powys ar bobl unwaith yn rhagor i ymddwyn yn bwyllog, gan bwysleisio bod plismyn yn aelodau balch o'r gymuned hefyd.
Datgelodd fod cyfanswm o 18 o bobl wedi eu harestio erbyn hyn. Rhybuddiodd y gallai rhagor gael eu harestio, gan bwysleisio na fyddai unrhyw weithredoedd troseddol yn cael eu goddef.