
Angen 'chwalu’r mythau' yn sgil galw cynyddol am ofalwyr maeth yng Nghymru
Angen 'chwalu’r mythau' yn sgil galw cynyddol am ofalwyr maeth yng Nghymru
Gydag ystadegau gan Maethu Cymru yn dangos bod 5 plentyn y dydd yng Nghymru angen gofal maeth, ma nhw’n amcangyfrif bod angen 600 o ofalwyr maeth ychwanegol, oherwydd y galw cynyddol.
Mae Karen a Stephen Phillips o Gaernarfon wedi maethu hyd at 80 o blant. Yn ôl Stephen, “da’ni ‘di joio pob munud ohono fo”.
“Nath’ ni ddechrau maethu yn 2001, a’r rheswm nath’ ni neud hynna oedd dwi o deulu mawr a da’ni bob tro ‘di cael rhywun o gwmpas drwy’r adeg. So, pan nath plant ni dyfu nath’ ni benderfynu san’ ni’n sbio mewn i maethu”.

I Karen Phillips, mae’r profiad o faethu yn “learning curve”.
“Ma' bob plentyn yn wahanol, ma bob achos yn wahanol, so fedrith neb prepario chi am bob dim, so da’ ni’n dysgu fel da’ ni’n mynd yn ein blaen”.
Er yn brofiad heriol ar adegau, mae’r ddau yn annog unrhywun sy’n ystyried dod yn rhieni maeth i fynd amdani.
“Swn i’n deud go for it” yw neges Karen. “Mae o’n challenge, hefyd un o’r pethau gorau da‘ ni di neud“.
Ac yn ol Stephen, does dim rhaid bod yn “neb sbesial i fod yn rhiant maeth: "Cariad ac amser dyna ‘di’r peth pwysicaf”.
Mae Meinir Llwyd yn gweithio fel swyddog marchnata i Maethu Cymru yn y gogledd. Iddi hi, mae “chwalu’r mythau” a chodi ymwybyddiaeth o bwy all faethu yn hanfodol.
“Ma’ pobol yn aml yn dod atom pan da’ ni allan yn y gymuned a dweud ‘na, dwi ddim mewn sefyllfa i faethu, dwi’n gweithio neu dwi ddim yn briod neu dwi’n sengl’. Ond wrth gwrs, does ‘na ddim un teulu maethu nodweddiadol”.
Wrth geisio cael mwy o bobl i faethu, mae Meinir eisiau pobl i wybod “bod maethu yn hyblyg” a bod ‘na “lot fawr o gefnogaeth hefyd”.

Ond i gynghorau ac asiantaethau maethu preifat, nid recriwtio pobl newydd i faethu yw’r unig nod. Mae’r sefyllfa ar hyn o bryd yn dangos pwysigrwydd cadw rhieni maeth presennol hefyd.
Roedd Ruth Mason o Gaerdydd eisiau bod yn ofalwr maeth ers iddi fod yn ferch fach. Dechreuodd faethu ar ol y pandemig, am gyfnod o bron i bum mlynedd.

Er ei hangerdd am y plant yn ei gofal, trodd y profiad yn “faich ariannol enfawr”.
“Gwnaeth fy iechyd meddwl ddioddef yn fawr pan oeddwn i’n maethu, ac nid am y rhesymau byddai rhywun yn ei feddwl. Nid oherwydd fod y pobl ifanc yn anodd neu’n heriol, na, roedd y plant yn fy ngwneud yn hapus iawn”.
“Y tristwch roeddwn i’n ei deimlo oedd bod fi methu gwneud job digon da, doeddwn i methu fforddio, methu fforddio i’w cadw nhw”.
Penderfynodd Ruth roi’r gorau i faethu ar ol sylwi nad oedd y sefyllfa am wella.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi eu “hymrwymo i gynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghymru ac ry’n ni’n gweithio yn agos gyda’n cynllun maethu cenedlathol, ‘Maethu Cymru’, i helpu awdurdodau lleol i sicrhau cyflenwad parod o ofalwyr maeth”.
Prif lun: Meinir Llwyd.