Newyddion S4C

Carcharu dyn am annog dynes fregus i weithio fel putain

22/08/2023
Charles Frayne

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei garcharu am annog dynes fregus i weithio fel putain er ei fudd ei hun.

Fe ddaeth Charles Frayne, 46 oed, o’r Sblot, yn ffrindiau gyda dynes fregus trwy gyfryngau cymdeithasol a datblygodd berthynas rywiol â hi.

Yna fe wnaeth Frayne hysbysebu’r fenyw am wasanaethau rhywiol ar-lein, cyn trefnu sawl llety Airbnb ar ei chyfer a chymryd cyfran o’r taliad.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sean James o Heddlu De Cymru: “Enillodd Frayne ymddiriedaeth y fenyw trwy dalu am fwyd a thacsi cyn ffurfio perthynas rywiol.

“Unwaith iddo ennill ei hymddiriedaeth, fe ariannodd hysbyseb ar wefan gweithwyr rhyw ac achosi iddi ymwneud â phuteindra.

“Gwadodd y drosedd i ddechrau ond cyn i’r dioddefwr ddod i roi tystiolaeth yn y llys ar 21 Gorffennaf, fe blediodd yn euog.

“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir a chymhleth. Mae’r ffaith ei fod wedi pledio’n euog yn adlewyrchu cryfder y dystiolaeth yn ei erbyn oherwydd ymchwiliad yr heddlu a dewrder y ddioddefwraig.

“Mae’r effaith ar y ddioddefwraig wedi bod yn ddinistriol ond mae hi wedi bod yn hynod o gryf ac amyneddgar ers dechrau’r ymchwiliad hwn.”

Cafodd Frayne ei ddedfrydu i ddeg mis yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun .

Mewn e-bost at Heddlu De Cymru, ysgrifennodd mam y ddioddefwraig: “Hoffai fy merch a minnau ddiolch i Heddlu De Cymru, ac yn arbennig Sean, am eu holl gymorth yn yr achos.

“Mae Sean wedi bod yno o’r cychwyn cyntaf yn ein cefnogi ni ac mae wastad wedi bod yno pan oedd ei angen arnon ni.

“Diolch am fod yn wych ac rydym yn hapus bod y diffynnydd wedi pledio’n euog, a gallwn symud ymlaen gyda’n bywydau.”

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.