Carcharu dyn am 15 mlynedd am dreisio ac ymosod yn rhywiol ar blant dan 13 oed
Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei garcharu am 15 mlynedd am dreisio ac ymosod yn rhywiol ar blant o dan 13 oed.
Cafodd Daniel Atkins ei ddedfrydu ar gyhuddiadau pellach o ymosod yn rhywiol ac achosi plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol.
Cafodd ei droseddau mwyaf diweddar eu cyflawni yn 2022 ond fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod bod y trais wedi bod yn barhaus dros y chwe blynedd ddiwethaf.
Wedi i'r heddlu ddod yn ymwybodol, cafodd Atkins ei arestio ar 7 Mai 2022 ac fe gafodd ei gyhuddo.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leah Fox: "Dwi eisiau rhoi teyrnged i ddewrder eithriadol y dioddefwyr yn ystod yr ymchwiliad. Fe wnaeth eu dewrder wrth adrodd y trais ofnadwy i'r heddlu sicrhau bod Atkins yn cael ei ddedfrydu am gyfnod hir.
"Rydym hefyd yn annog unrhyw un arall i gysylltu ac i roi gwybod am y troseddau a allai fod wedi cael eu cyflawni yn eu herbyn.
"Trais yn erbyn menywod a merched ydi un o brif flaenoriaethau Heddlu De Cymru ac mae'r ymchwiliad hwn yn pwysleisio ein hymrwymiad i sicrhau dedfryd ar gyfer troseddau o'r fath."
Cafodd ei garcharu am 15 mlynedd gyda chyfnod estynedig o bum mlynedd ar drwydded.
Mae hefyd wedi cael ei gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei fywyd.