Newyddion S4C

Rygbi: Teimladau cymysg i Corey Domachowski wrth gael ei ddewis yng ngharfan Cymru

ITV Cymru 22/08/2023
Corey Domachowski

Mae chwaraewr Cymru, Corey Domachowski wedi siarad am ei deimladau cymysg wrth ddod i wybod ei fod wedi cael ei ddewis yn rhan o dîm Cwpan y Byd Cymru fis nesaf.

Dywedodd y prop ei fod yn aros i fynd i angladd ei famgu pan gafodd yr alwad ei fod wedi cael ei ddewis yn y garfan. 

Wrth siarad ar ôl y cyhoeddiad, dywedodd er bod yr angladd yn achlysur trist iddo fe a'i deulu, eu bod yn "ecstatig" pan wnaethon nhw glywed y newyddion da gan y prif hyfforddwr, Warren Gatland.

"Roedd hi’n eithaf neis â dweud y gwir, oherwydd yn amlwg mae'n ddiwrnod mor drist ac roedd pawb ychydig yn isel, ac fe wnaeth y newyddion godi’r hwyliau ychydig," meddai.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Domachowski esbonio "nad oedd geiriau" ganddo mewn neges ar Twitter, gan ddweud “maen nhw i gyd wedi bod yn edrych i lawr arnaf.”

Fe wnaeth y chwaraewr, sy’n 26 oed, ennill ei gap cyntaf dros Gymru eleni -  gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cenedlaethol fis yma. Roedd yn rhan o’r tîm wnaeth guro Lloegr yn Stadiwm y Principality.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.