Lansio apêl i warchod hanes hynafol coed lleol
Mae apêl wedi'i lansio i helpu i warchod llinach coed hynafol Sir Ddinbych.
Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych sydd yn paratoi i ymgymryd â gwaith i helpu i ddiogelu hanes hen goed yn y rhanbarth.
Mae’r tîm yn apelio ar bob tirfeddianwyr yn Sir Ddinbych sydd â choed llydanddail brodorol hynafol ar eu heiddo i roi eu henwau ymlaen i helpu i warchod y llinach.
Mewn datganiad gofynnodd y tîm os oes gan dirfeddianwyr ddiddordeb mewn cyfrannu at ymdrechion cadwraeth yn y sir, os y gallai swyddogion ddod i gasglu hadau o'r goeden ddynodedig.
Bydd y rhain wedyn yn cael eu tyfu ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy y mae 11,500 o goed eisoes wedi tyfu ar y safle yn 2023.
Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Liam Blazey: “Rydym ni’n chwilio am y coed gwych hyn a’u hadau nhw i helpu i gadw a chynyddu brigdwf ein sir a byddem ni’n gwerthfawrogi cymorth tirfeddianwyr i wneud hyn yn fawr.”
Mae'r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn annog tirfeddianwyr i helpu gyda'r cynllun.
“Mae gennym ni gyfleuster gwych, sef ein planhigfa goed, sydd wir yn bwrw ymlaen i’n helpu ni i wella ein bioamrywiaeth ar hyd a lled Sir Ddinbych.
"Byddai'n wych pe gallem ni ddefnyddio hwn i barhau ag etifeddiaeth y coed hynafol balch hynny sydd allan yn y sir a byddwn yn annog tirfeddianwyr i gysylltu os ydyn nhw am wneud eu rhan nhw i helpu ein brigdwf lleol i ffynnu.”