Newyddion S4C

Cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu Clwb Ifor Bach

22/08/2023
clwb ifor bach.png

Mae cais cynllunio newydd wedi cael ei gyflwyno er mwyn 'ehangu a diweddaru' Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. 

Y bwriad yn ôl rheolwyr y clwb ar Stryd Womanby fydd i drawsnewid y gofod yn 'safle aml-ystafell a chwbl hygyrch newydd sbon' drwy uno'r adeilad adfeiliedig drws nesaf â'r safle presennol.

Mae gan Glwb Ifor Bach 18 mis i godi'r arian a gwireddu'r uchelgais.

Bydd yr ail-ddatblygiad yn galluogi Clwb Ifor i gynnal digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol ar raddfa fwy yn sgil gofod newydd sydd â chapasiti ar gyfer 500 o bobl.

Bydd ystafell â chapasiti i 200 o bobl hefyd yn cael ei datblygu i 'sicrhau cefnogaeth barhaus i gerddorion newydd yn ystod camau cynnar eu datblygiad artistig.'

Daeth Clwb Ifor Bach yn elusen gofrestredig yn 2019 ac mae'r rheolwyr yn dweud ei fod yn ymroddedig i wella cyfleoedd i gynulleidfaoedd iau a chefnogi technegwyr, hyrwyddwyr, perfformwyr a ffotograffwyr.

Bydd y cais cynllunio yn cael ei gyflwyno ddydd Llun ond mae Clwb Ifor yn cydnabod bod gwaith i'w gyflawni eto er mwyn gwireddu'r freuddwyd, a hynny o ystyried pwysau chwyddiant ac effaith hyn ar y gost ers i'r dyluniadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn 2019. 

Er mwyn gwireddu'r freuddwyd, mae Clwb Ifor Bach yn galw ar bobl i gefnogi'r prosiect o fewn y 18 mis nesaf. 

'Pwysig'

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach Guto Brychan: "Mae cryn dipyn o amser wedi bod ers i ni ryddhau’r dyluniadau cysyniadol ar gyfer yr ailddatblygiad ’nôl ar ddechrau 2019, ac mae gallu cyflwyno’r cais cynllunio o’r diwedd yn teimlo fel cam mawr ymlaen.  

"Rydyn ni’n dathlu pen-blwydd Clwb Ifor yn 40 eleni, ac rydyn ni eisiau atgoffa pobl ers pryd rydyn ni wedi bod yma, a pha mor bwysig ydyn ni i’r gymuned ac i fywyd diwylliannol Caerdydd."

Cafodd Clwb Ifor ei agor ym 1983, ac ers hynny, mae wedi helpu artistiaid gan gynnwys Stereophonics, Boy Azooga, Gwenno, Super Furry Animals yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

Mae'r bandiau byd-enwog The Killers, Coldplay a'r Manic Street Preachers hefyd wedi camu ar y llwyfan yno. 

Ychwanegodd Guto Brychan: "Hoffen ni ddiolch i Gyngor Caerdydd am eu cymorth yn sicrhau’r safle drws nesaf, oedd yn ffactor allweddol wrth symud y cynlluniau yn eu blaen. 

"Mae ffordd hir o’n blaenau ni’n dal i fod, yn enwedig o ran sicrhau digon o gyllid, ond rydyn ni’n hyderus y bydd ein cynlluniau i wella Clwb Ifor Bach ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd y dyfodol yn gonglfaen i isadeiledd cerddoriaeth fyw y brifddinas am flynyddoedd i ddod.

"Nid yn unig bydd y safle’n adeiladu ar ein treftadaeth, bydd yn cyfrannu at ein cymuned, at economi Cymru, ac at hanfod bywyd yng Nghymru."
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.