Newyddion S4C

Mam Olivia Platt Korbel yn dweud bod ei 'chalon yn gwaedu' dros deuluoedd dioddefwyr Lucy Letby

22/08/2023
cheryl korbel.png

Mae mam Olivia Pratt Korbel wedi dweud bod ei chalon hi'n gwaedu dros deuluoedd dioddefwyr Lucy Letby ar ôl i'r cyn nyrs wrthod ymddangos yn y llys ar gyfer ei gwrandawiad dedfrydu. 

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Manceinion ddydd Llun, fe gafodd Letby ei dedfrydu i garchar am oes am lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio chwech o fabanod eraill. Mae'n golygu na chaiff fyth ei rhyddhau. 

Collodd Cheryl Korbel ei merch 9 oed Olivia mewn achos o saethu yn ei chartref yn Lerpwl y llynedd. 

Gwrthododd ei llofrudd Thomas Cashman ag ymddangos yn y llys ar gyfer y ddedfryd. Yn ei absenoldeb, dywedodd y barnwr Mrs Ustus Yip y bydd angen i Cashman dreulio o leiaf 42 o flynyddoedd o dan glo cyn y caiff ei gais am barôl ei ystyried. 

Ers hynny, mae Ms Korbel wedi bod yn ymgyrchu am newid i'r gyfraith, er mwyn gorfodi troseddwyr i ymddangos mewn llys. 

Union flwyddyn wedi marwolaeth Olivia, dywedodd Ms Korbel bod ei "chalon yn gwaedu dros deuluoedd" y babanod a gafodd eu lladd neu eu hanafu gan Letby yn Ysbyty Countess of Chester.

Dywedodd Cheryl Korbel hefyd bod ei "thywysoges fach" wedi cyffwrdd y gymuned ac ei bod hi eisiau i bobl gofio ei merch fel merch "ddireidus" yn "caru bywyd" ac yn "caru dawnsio". 

'Poen'

Wrth nodi y flwyddyn ers ei llofruddiaeth, fe wnaeth ysgol Olivia bledio am heddwch.

Dywedodd disgyblion yn Ysgol St Margaret Mary's yn Huyton yn ogystal ag ysgolion cynradd Malvern a Park Brow: "Gallem fod yn deulu heb elynion. Fyddwn ni fyth yn gwybod os nad ydym ni'n trio."

Rhoddodd Letby, 33, y gorau i ymddangos yn y gwrandawiad yn Llys y Goron Manceinion hanner ffordd trwy drafodaethau'r rheithgor a dywedodd nad oedd yn bwriadu dychwelyd i'r llys na dilyn gwrandawiad y dedfrydu drwy ddolen fideo.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Goss: "Nid oes gan y llys unrhyw bŵer i orfodi diffynnydd i fynychu gwrandawiad dedfrydu felly does dim byd y gallaf ei wneud o ran hynny."

Wrth ymateb mewn datganiad wedi i Cashman gael ei ddedfrydu, dywedodd Ms Korbel: "Roedd ysgrifennu'r datganiad yn nodi'r effaith arnom yn ofnadwy o anodd. Nid munudau a gymrodd. Roedd yn ddyddiau, dros ychydig wythnosau. 

"Mae'n bwysig i'r troseddwyr wrando ar y boen maen nhw wedi ei hachosi, a'r boen sy'n parhau."

Dywedodd cyfnither Ms Korbel, Antonia Elverson fod penderfyniad Letby i beidio ymddangos yn y gwrandawiad yn "dinistrio enaid" y teuluoedd. 

Mae gan farnwyr y pŵer i orchymyn diffynyddion i ddod i'r llys cyn i'r dyfarniad gael ei gyflwyno. Os nad ydynt yn gwneud hyn, gallant wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar.

Ond nid yw'r gyfraith yn berthnasol ar gyfer gwrandawiadau dedfrydu.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.