Drakeford yn croesawu cynhadledd arweinwyr y DU

03/06/2021
Summit Drakeford
Summit Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi croesawu "dechrau proses ymgysylltu briodol" yn dilyn cynhadledd gydag arweinwyr eraill y Deyrnas Unedig.

Bu cynhadledd rhwng arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson yn gynharach ddydd Iau.

Bwriad y cyfarfod oedd trafod sut y byddan nhw'n cydweithio er mwyn ceisio adfer y DU wedi'r pandemig. 

Fe gafodd Mark Drakeford, Nicola Sturgeon ac Arlene Foster eu gwahodd i gyfarfod â Mr Johnson yn dilyn yr etholiadau yng Nghymru a'r Alban fis Mai. 

Dywedodd Mark Drakeford: "Mae'r uwchgynhadledd heddiw wedi bod yn ddechrau proses ymgysylltu briodol rhwng 4 gwlad y DU – y prawf go iawn yn awr fydd sut y gwneir penderfyniadau yn y dyfodol ar faterion sy'n effeithio ar bob un ohonom".

Cyn y gynhadledd, fe ddywedodd Arlene Foster mai adferiad cymdeithasol ac economaidd y Deyrnas Unedig fyddai'n ganolog i'r trafodaethau.

Roedd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn awyddus i drafod y diwydiant awyrennau a fydd yn "cymryd yn hirach i adfer".  Mae Ms Foster yn galw am gynllun ffyrlo penodol i'r sector.

Llun: Llywodraeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.