Gobeithio am ddyfodol disglair i gamp para-syrffio yng Nghymru
Gobeithio am ddyfodol disglair i gamp para-syrffio yng Nghymru
Mae pencampwr syrffio cyntaf Cymru yn gobeithio am dwf pellach ym mhara-syrffio yn y wlad, ac yn gobeithio bydd cynrychiolaeth yn y Gemau Olympaidd i'r dyfodol.
Dros y penwythnos bydd Llywelyn 'Sponge' Williams o Abersoch, Gwynedd yn cynnal Pencampwriaeth Para-Syrffio Cymru yng nghanolfan The Wave, ym Mryste.
Bu'n rhaid symud y gystadleuaeth o ganolfan Surf Snowdonia yn Sir Conwy gan fod y pwll yno wedi malu, ond mae para-syrffwyr ledled y byd wedi teithio i gystadlu ym Mryste y penwythnos hwn.
"'Da ni wedi rhedeg dau yn Nolgarrog yn Surf Snowdonia, bechod flwyddyn yma mae’r pwll wedi malu. Felly oedd o una’i canslo a ypsetio pobl oedd wedi dod o dramor, di bwcio eu flights, neu trio symud o i fan’ma," meddai Mr Williams.
Los Angeles 2028
Erbyn diwedd 2023 bydd y penderfyniad yn cael ei wneud i gynnwys para-syrffio yn y Gemau Paralympaidd neu beidio.
Pe bai'r penderfyniad yn cael ei gymeradwyo bydd y gamp yn cael ei chynnwys am y tro cyntaf yn gemau Los Angeles 2028.
"Mae blwyddyn yma yn bwysig uffernol achos ‘da ni’n cael gwybod os yda ni’n mynd i’r Paraolympics erbyn 2028," ychwanegodd Mr Williams.
"Dwi di bod mewn tua 10 competition blwyddyn yma yn barod i trio pwsio fo a chael pobl newydd i mewn. A cael y gair allan bod syrffio ar gael i bawb, dim otch am anabledd neu mental health neu wbath fel’na, mae syrffio yma."
Dyma obaith sydd yn cael ei adleisio gan Dana Cumming, Llywydd y Gynghrair Para-Syrffio
"Dwi’n rili gobeithio cawn ni fewn i'r Paraolympics 2028, a dwi'n meddwl unwaith nawn ni hynny wneith y gamp fynd yn fwy. Mae’r gamp yn tyfu yn ddyddiol", meddai Mr Cumming.
Mwy o Gymru yn y dŵr
Erbyn hyn mae gan Gymru sawl para-syrffwr sydd yn cynrychioli eu gwlad.
Ond mae Llywelyn Williams eisiau i'r niferoedd hyn godi hyd yn oed yn uwch:
"'Da ni efo amser i ddysgu pobl sut i fynd i syrffio. Dwi isio cael mwy o bobl yng Nghymru i syrffio a thrio cystadlaethau," meddai.