Newyddion S4C

Bachgen chwech oed yn aros bron i wyth awr am ambiwlans ar ôl torri ei goes

19/08/2023
Arlo Jones

Mae mam o Aberhonddu yn galw am well darpariaeth gan y gwasanaethau brys wedi i’w mab chwech oed aros bron i wyth awr am ambiwlans ar ôl iddo dorri ei goes. 

Fe dorrodd mab Sophie Jones, Arlo, asgwrn y forddwyd (femur) mewn parc lleol ger tŷ ei nain yr wythnos diwethaf, wedi iddo blygu’i goes wrth chwarae ar lithren. 

Bu’n rhaid iddo aros bron i wyth awr “trawmatig” i dderbyn cymorth meddygol wedi i’r ambiwlans gyrraedd cartref y teulu toc cyn 04.00 ar fore Sadwrn. 

Fe gafodd Arlo ei gludo o’r parc yn fuan wedi’r digwyddiad, a hynny gan ei dad a wnaeth gario’r bachgen ifanc yn ei freichiau a’i gludo yn ôl adref yn y car. 

Ond roedd yn rhaid i’w mab ddioddef mewn poen “eithafol,” medd ei fam, a hynny heb unrhyw gyffuriau i leddfu’r boen, tra oedd yn aros i’r ambiwlans gyrraedd.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ms Jones: “Cafodd Arlo ei gario i’r soffa a phan gafodd ei osod i lawr, plygodd ei goes yn ei hanner. 

“’Nes i sgrechian,” meddai. 

“Wnes i sylweddoli difrifoldeb ei boen pan gyrhaeddon ni’r ysbyty oherwydd doedd y cyffuriau, Morphine a Fentanyl, ddim yn lleddfu ei boen o gwbl. 

“O’n i jyst yn meddwl, Arglwydd, sut all o fod wedi ymdopi fel hyn heb unrhyw gyffuriau?

“Yr oll oedd gen i roi iddo oedd Paracetamol. Roedd rhaid iddo aros am bron i wyth awr fel 'na. 

“Mae’n rhaid ei fod yn dioddef poen mor ddifrifol.”

Image
Arlo yn yr ysbyty

‘Angen newid’

Er mwyn sicrhau gwellhad i amseroedd ymateb ambiwlansys, mae Sophie Jones yn galw am newidiadau i system flaenoriaethu anafiadau'r gwasanaeth. 

Dywed bod cwestiynau gan weithwyr llinell gymorth y gwasanaeth wedi “methu” blaenoriaethu anafiadau ei mab. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Cafodd Arlo ei gategoreiddio yn ôl system goleuadau traffig sydd wedi’i seilio ar dri chwestiwn: ydy’r claf yn anadlu? ydy’r claf yn ymwybodol? ac ydy’r claf yn gwaedu?

“Oherwydd hyn cafodd Arlo ei gategoreiddio fel ‘Ambr 2’ sydd ddim yn argyfwng. 

“Roedd rhaid iddo aros oriau mewn poen eithafol gyda morddwyd oedd wedi hollti’n ddau,” meddai.

Image
Coes Arlo Jones
Asgwrn Arlo wedi'i hollti'n ddau.

Mewn ymateb i brofiad Arlo, dywedodd Jeff Morris, Pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn y Canolbarth a'r Gorllewin: "Mae'n ddrwg iawn gennym glywed am brofiad Arlo, a gwyddom y bydd wedi bod yn ofidus i bawb dan sylw. 

"Yn anffodus, mae oedi trosglwyddo hir yn parhau, sy'n golygu na allwn bob amser gyrraedd cleifion yn y gymuned cyn gynted ag yr hoffem. 

"Ar adeg galwad Ms James, roedd yr Ymddiriedolaeth wedi derbyn dros 1,000 o alwadau a oedd yn cynyddu, gyda'n ambiwlansys brys ym Mhowys eisoes wedi ymrwymo ac yn aros y tu allan i'r Adrannau Achosion Brys. 

"Rydym yn parhau i ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y system iechyd i helpu i wella llif cleifion, fel y gellir rhyddhau ambiwlansys o'r ysbyty - mae methu ag ymateb i'r gymuned mewn modd amserol yn rhwystredig i ni fel y mae i gleifion.

‘Cefnogaeth’

Fe gafodd Arlo ddod adref o’r ysbyty ddydd Gwener, a hynny ar ôl iddo ddathlu ei ben-blwydd yn saith oed yn yr ysbyty. 

Yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Dinas Caerdydd, fe gafodd ganmoliaeth gan gapten y tîm, Joe Ralls, am ei ddewrder. 

Fe wnaeth y chwaraewr pêl-droed ymweld ag Arlo tra oedd yn yr ysbyty – ac roedd hyn wedi “codi ei ysbryd,” meddai Ms Jones. 

Mae Aaron Ramsey hefyd wedi gyrru neges o gefnogaeth i Arlo. 

Image
Arlo a Joe Ralls
Joe Ralls yn ymweld ag Arlo yn yr ysbyty.

Mae Ms Jones yn gobeithio y bydd y math yma o gydnabyddiaeth yn galluogi’r teulu i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â system “sydd ddim yn gweithio,” meddai. 

“Dwi eisiau defnyddio’r cyfle yma i godi ymwybyddiaeth a newid y system sydd ei angen. 

“Rwy’n deall bod y GIG yn dioddef ond mae rhaid i ni newid gwasanaeth nad yw’n gweithio.”

Mwy o barafeddygon

Ychwanegodd Jeff Morris, Pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru: "Er mwyn helpu gyda'r galw ym Mhowys, rydym wedi cyflogi 30 o barafeddygon sydd newydd gymhwyso a fydd yn dechrau yn ystod y misoedd nesaf. 

"Gall y cyhoedd helpu'r gwasanaeth drwy ffonio 999 mewn argyfwng difrifol neu fygythiad i fywyd yn unig, ac os yn ddiogel i wneud hynny, dod o hyd i drafnidiaeth amgen i'r ysbyty. 

"Mae GIG 111 Cymru hefyd ar gael 24/7 i roi cyngor a chefnogaeth iechyd. 

"Rydym yn dymuno gwellhad buan i Arlo a byddem yn croesawu cyswllt pe bai'r teulu'n dymuno archwilio ein hymateb ymhellach."

Wrth drafod cynlluniau i fynd i’r afael ag amseroedd oedi ambiwlansys yng Nghymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan bob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gynlluniau gwella ambiwlansys ar y cyd ar waith i wella cyflymder ymatebion ambiwlans, a helpu clefion 999 yn y gymuned. 

“Mae data ar gyfer mis Mehefin yn dangos y perfformiad gorau mewn 16 mis yn erbyn y targed wyth munud ar gyfer galwadau coch, a chofnodi'r perfformiad pedair awr gorau ar gyfer cyfleusterau gofal brys am fwy na dwy flynedd.

“Er gwaethaf y pwysau cyllidebol parhaus, rydym yn buddsoddi yn y NHS ac mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi recriwtio 399 yn fwy o staff ambiwlans dros y tair blynedd diwethaf."

Image

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.