Gorymdaith i'r Eisteddfod i wrthwynebu adweithyddion niwclear bychain

Gorymdaith i'r Eisteddfod i wrthwynebu adweithyddion niwclear bychain
Mae ymgyrchwyr CND Cymru wedi gorymdeithio 44 milltir o hen orsaf ynni niwclear Trawsfynydd i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan i wrthwynebu cynigion i gyflwyno Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd Bach (SMRs) yng Nghogledd Cymru.
Un o'r rhai wnaeth orymdeithio oedd trefnydd yr orymdaith, Sam Bannon. Dywedodd bod y grŵp yn protestio er mwyn “sicrhau dyfodol i ni gyd.”
“Mae angen buddsoddi yn ynni gwyrdd i sicrhau dyfodol i ni gyd - dyma beth ni'n cerdded amdan - dyfodol ni, a dyfodol ein plant" meddai.
Mae’r brotest yn dilyn cyhoeddiad flwyddyn diwethaf o gynlluniau y cyn brif weinidog Boris Johnson i ddatblygu 24 gigawat o gapasiti cynhyrchu ynni niwclear yn y DU erbyn 2050, gan addo y byddai gorsaf bwer niwclear yn cael ei adeiladu yn Wylfa ar Ynys Môn.
Ond nid yw CND Cymru yn cefnogi’r cynlluniau. Yn ôl Mr Bannon “mae'n amser i'n llywodraethau ym Mae Caerdydd a San Steffan wrando. Mae angen buddsoddi yn ynni gwyrdd i sicrhau dyfodol i ni gyd.”
'Uchelgais'
Mae Cwmni Egino (CE) hefyd wedi cyhoeddi eu gweledigaeth i gael safle adweithydd modiwlaidd bach cyntaf y Deurnas Unedig yn Nhrawsfynydd erbyn 2027.
Yn ôl y cwmni, byddai’r cynllun yn hyrwyddo adfywiad economaidd a chymdeithasol yr ardal.
Wrth orymdeithio, dywedodd Elwyn Jones, ymgyrchydd o Fae Colwyn, ei fod yn protestio yn erbyn Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd Bach gan ei fod yn pryderu am “blant ifanc yn cael canser a liwcemia.”
Dywedodd: “Dw i di colli plant i ffrindiau da i mi blynyddoedd yn ôl sydd wedi marw yn ifanc o liwcemia. Mae niwclear yn crime against humanity ac yn crime against the planet”.
Mewn ymateb i’r orymdaith dywedodd llefarydd ar ran yr Adran dros Ddiogelwch Ynni a Net Zero: “Mae unrhyw awgrym bod ein hadweithyddion niwclear yn anniogel yn gwbl anghywir ac mae gennym ni un o’r systemau reoleiddio gorau’r byd i sicrhau nad oes unrhyw risg i’r rhai sy’n byw yn agos.
“Fe wnaethom lansio Great British Nuclear i helpu i gyrraedd ein huchelgais o chwarter ein pŵer yn dod o ynni niwclear cartref erbyn 2050.
“Rydym yn amcangyfrif y bydd hyn yn cynhyrchu biliynau i economi’r DU, gan gynnwys Cymru, ac mae’n ganolog i’n cynlluniau ar gyfer sicrhau diogelwch ynni’r DU, cyrraedd net sero a’n dyfodol ynni cymysg.”