Defnyddio GIFs i warchod enwau lleoedd yng Nghymru
Defnyddio GIFs i warchod enwau lleoedd yng Nghymru
Mae dulliau hen a newydd yn cael eu defnyddio i warchod enwau lleoedd yng Nghymru, ond mae un fenter wedi creu ffordd newydd o wneud hynny drwy ddefnyddio GIFs.
Animeiddiad sydd yn para rhai eiliadau yw GIF ac mae modd eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol a'u danfon nhw at ffrindiau.
Sioned Young sy'n gyfrifiol am y fenter newydd hon o warchod enwau lleoedd, trwy ei chwmni Mwydro.
Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn dylunio GIFs gyda phlant ysgol, gan gynnwys rhai o leoliadau sy'n agos i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
"Ma' technoleg a cyfryngau cymdeithasol yn gymaint o ddiddordeb i blant ar hyn o bryd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Felly dwi'n meddwl bod clywed bod eu GIFs nhw am gael eu defnyddio ar Snapchat, Instagram, TikTok a bod 'na bobl eraill hefyd, enwogion, eu ffrindiau a'u teulu nhw yn cael eu diddordeb nhw.
"Mae hefyd gynnon ni mynyddoedd fel Yr Wyddfa, ma gynnon ni afonydd. Ma tipyn wedi dewis Boduan yn meddwl geith o dipyn o ddefnydd wythnos yma sydd yn braf i weld, a ma nhw'n dewis eu hoff ddarluniad o'r lle hefyd."
Pwysigrwydd pobl
Mae John Dilwyn Williams yn rhoi'r pwyslais ar bobl wrth gadw enwau lleoedd.
"Er bod mapiau yn defnyddiol ac yn bwysig wrth gadw'r holl enwau, mae gan bobl yn eu hardaloedd rôl hollbwysig hefyd, meddai cyn-swyddog Cyngor Archifau Gwynedd.
"Ma ganddon ni'r ffynonellau sydd yn yr archifau, y mapiau degwm, y mapiau stad, mapiau arwerthiant. A hefyd wrth gwrs ffynonellau ysgrifennedig gweithredol.
"Ond yr elfen lafar sydd mor, mor bwysig, bod rhywun yn gwybod sut yn union oedd enw llefydd yn cael eu dweud."