Boris Johnson yn hyderus am amserlen llacio cyfyngiadau Covid-19 Lloegr

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud nad yw’r data yn awgrymu na ddylai cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio yn Lloegr yn ddiweddarach y mis hwn.
Serch hynny, dywedodd Boris Johnson fod angen aros “ychydig yn hirach” cyn dod i benderfyniad terfynol.
Mae disgwyl i gyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr gael eu llacio ar 21 Mehefin – gyda pellhau cymdeithasol yn dod i ben bryd hynny.
Dros y dyddiau diwethaf, mae’r Prif Weinidog wedi wynebu pwysau cynyddol gan wyddonwyr i bwyllo’r broses o godi’r cyfyngiadau yn sgil ymlediad yr amrywiolyn gafodd ei adnabod gyntaf yn India.
Wrth annerch cynhadledd i’r wasg ddydd Mercher, roedd Mr Johnson yn hyderus y gallai’r cynllun llacio fynd yn ei flaen, ond pwysleisiodd fod angen bod yn “bwyllog” oherwydd data “amwys” ynglŷn â pha mor effeithiol yw cynllun brechu’r DU wrth geisio ymladd y cynnydd mewn achosion.