Fideo yn dangos dynes yn achub ei chŵn rhag arth yng Nghaliffornia
02/06/2021
Fideo yn dangos dynes yn achub ei chŵn rhag arth yng Nghaliffornia
Mae fideo o ddynes ifanc yn ceisio amddiffyn ei chŵn rhag arth wedi denu sylw ar y we.
Mae'r fideo yn dangos Hailey Morinico, 17 oed, yn gwthio'r arth oddi ar wal ei gardd yng Nghaliffornia.
Ar gychwyn y fideo, mae'r arth yn dringo ar ben wal ynghyd â'i chenau bach, cyn i grŵp o gŵn gychwyn cyfarth arnyn nhw.
Mae'r arth yna'n amddiffyn ei chenau drwy geisio ymosod ar y cŵn â'i phawen, cyn i Hailey Morinico ruthro o'r tŷ a gwthio'r arth oddi wrth y wal.
Yn ôl adroddiadau, cafodd Hailey Morinico fân anafiadau yn dilyn y ffrwgwd.
Fideo: bakedlikepie