Newyddion S4C

Doniau Cudd: Dathlu 20 mlynedd prosiect cerddoriaeth i bobl ag anableddau

06/08/2023

Doniau Cudd: Dathlu 20 mlynedd prosiect cerddoriaeth i bobl ag anableddau

"Mae o'n fraint aruthrol i mi gael bod yn arwain y Doniau Cudd."

Wrth sefyll ym Mhabell Encore ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mae Arfon Wyn yn adlewyrchu ar 20 mlynedd o arwain prosiect cerddoriaeth greadigol i bobl sydd ag anableddau dysgu.

Plannwyd hedyn y cynllun yng Nghaernarfon pan oedd y cerddor Arfon Wyn, sydd wedi treulio blynyddoedd fel athro mewn ysgolion arbennig, wedi mynegi pryder bod diffyg darpariaeth gerddorol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ar ôl gadael yr ysgol. .

Gyda Chanolfan Gerddorol William Mathias, fe’i sefydlwyd Doniau Cudd yn 2003 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.

"'Da ni wedi cyd-weithio rhwng Canolfan Gerdd William Mathias a fi fy hun," meddai Arfon Wyn.

"'Da ni wrthi bob nos Iau, yn dod at ein gilydd i greu cerddoriaeth. A 'da ni'n creu cerddoriaeth ar y cyd efo cerddorion medrus tua'r un oed a'r rhai sy'n dŵad i'r dosbarth felly.

"Ma' nhw'n mwynhau gymaint, felly mae o'n ddathliad hapus iawn i ni gyd, ugain mlynadd."

Cyfleoedd

Mae’r grŵp yn rhannu eu cerddoriaeth gydag eraill trwy berfformio yng nghyngherddau Canolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon ac mewn lleoliadau eraill.

Ymysg yr uchafbwyntiau mae perfformiad yn y Senedd, Caerdydd fel rhan o ddigwyddid Arts & Business Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yng Nghadeirlan Llanelwy, ac eitem ar raglen ‘Heno’ S4C. 

Image
Doniau Cudd
Doniau Cudd yn perfformio yn y Babell Encor

Meinir Llwyd Roberts yw Cyfarwyddywr Canolfan Gerddorol William Mathias, ac maen nhw'n "darparu bob dim sydd angen" i'r prosiect.

"Da ni wedi mwynhau dros yr ugain mlynadd gyda nawdd gan wahanol sefydliadau i gynnig y ddarpariaeth yma yn y ganolfan gerdd," meddai.

"Ma' Arfon yn arbennig iawn yn arwain y sesiyna'n ddi-ffael dros ugain mlynadd a 'da ni 'di bod yn perfformio mewn amryw o leoliada.

"A ma'r cyfle i berfformio yn bwysig iawn i'r aelodau a ma' cael bod yma yn y 'Steddfod yn golygu lot i bawb. Dwi'n gobeithio y fydd o'n parhau."

'100 oed'

Gobaith Arfon Wyn yw bydd y Gobaith Arfon Wyn yw bydd y prosiect yn parhau am flynddoedd i ddod.

"Yn rhyfadd iawn, mae'r mab yn ymddiddori yn yr un teip o beth so dwi'n gobeithio wneith o gario'r baton ymlaen 'llu.

"Achos fyddai rhyw 100 oed mewn ugain mlynadd arall!"

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.