
Theatr i bawb yn Llŷn: Golwg ar y perfformiadau theatrig ym mhob cwr o’r Maes eleni
Mae digonedd o berfformiadau theatrig ym mhob cwr o’r Maes eleni. Mared Llywelyn, aelod o Bwyllgor Theatr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd fu’n pori drwy’r rhaglen ar ein rhan.
Mae gwledd o theatr o’ch blaen yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni. Mae’r ffaith bod cymaint o gynyrchiadau – o lwyfan, i theatr stryd, i ddawns – yn mynd i fod ar gael inni fwynhau mewn cae ym Moduan y tu hwnt o gyffrous.
Yr hyn oedd yn bwysig i’r Pwyllgor Theatr yw bod rhywbeth yma at ddant pawb. Yn ogystal â chynyrchiadau ar lwyfan, mae llu o sgyrsiau difyr, darlleniadau ac ambell i syrpreis fydd yn ymddangos ar y Maes bob hyn a hyn.
Bydd mwy na digon i ddiddori’r plant, ac i ddweud y gwir ‘dwi ar dân i gael y profiad o ymweld â Threantur yn y Pentre Plant, sy’n cael ei drefnu gan National Theatre Wales. Fan hyn, mae’r pwyslais ar chwarae a’r dychymyg, a lle i blant redeg yn rhydd drwy’r dydd petaen nhw eisiau... ydi oedolion yn cael mynd, plîs?

Yn ogystal â hen ffefrynnau fel sioeau ‘Cyw’ a ‘Stwnsh’, mae cynyrchiadau hudolus eraill i ddiddori plant a theuluoedd, megis ‘Ble Mae’r Dail yn Hedfan?’, Cwmni Theatr Arad Goch, ‘Brogs y Bogs’, Familia de la Noche, a golwg newydd ar yr ‘Hogyn Pren’ gan Theatr Genedlaethol Cymru – antur am fab o froc môr sydd wedi’i ysbrydoli gan gerdd ID Hooson.
Eleni mae sioe newydd wedi’i datblygu yn arbennig ar gyfer pobl ifanc. Mae cryn edrych ymlaen at ‘Popeth ar y Ddaear’, cwmni Frân Wen, a berfformir ym Maes B nos Wener yr Eisteddfod. Bydd yn cyfuno cerddoriaeth, y gair llafar, fideo a chelf weledol.
Oedolion – peidiwch â meddwl eich bod chi’n rhy hen i fynd i Maes B! Bydd y cynhyrchiad hwn, fydd yn mynd â’r gynulleidfa ar daith lythrennol ac emosiynol gyda’i neges amserol a phwysig yn brofiad a hanner ‘dwi’n siŵr.
Mae llais a phrofiad merched i’w glywed yn gryf yn yr arlwy eleni, a sawl un yn arddull y fonolog.
‘Dwi’n ffodus iawn bod ‘Croendena’, cwmni Frân Wen yn cael ei berfformio yng Ngaffi Maes B o nos Lun i nos Fercher. Wedi’i ysgrifennu gen i, ei gyfarwyddo gan Rhian Blythe ac yn serennu Betsan Ceiriog, mae’n ymdrin â phrofiadau merch ifanc yn tyfu fyny mewn ardal debyg iawn i Ben Llŷn... ocê, Pen Llŷn ydi o.
Mae’r gymuned a pherthyn yn chwarae rhan greiddiol yma, ac mae’n fraint ei fod yn cael ei berfformio ym Moduan.

‘Dwi hefyd wedi ‘nghyffroi o weld bod monolog arall am ferch yn ei hugeiniau hwyr yng Nghaffi Maes B, sef yr enwog ‘Fleabag/ Bag Chwain’ gan Theatr Clwyd. Leah Gaffey sy’n ymgymryd â’r rôl eiconig yma.
Dwi’n sicr y bydd Caffi Maes B yn orlawn yn gwylio ‘Bag Chwain’ yn mynd drwy’i phethau, ac y bydd cyfieithiad Branwen Davies yn gwneud i’r gynulleidfa forio chwerthin.
Draw yn y Babell Wyddoniaeth y bydd monolog ‘Ffenast Siop’, Cwmni Theatr Bara Caws. Y cyfarwyddwr Iola Ynyr a’r actores Carys Gwilym sydd wedi bod yn datblygu’r ddrama hon am y menopôs – testun nad yw’n cael ei drafod o gwbwl, bron, er ei fod yn rhywbeth sy’n digwydd i’r rhan fwyaf o ferched.
‘Dwi’n edrych ymlaen i weld perfformiad Carys Gwilym o sgript gonest ac amrwd Iola Ynyr.
I gloi ar y thema monologau, cofiwch hefyd y bydd darlleniad yn y Babell Lên o fonologau Sioned Erin Hughes, wedi’i ysbrydoli gan gyfrol fuddugol, boblogaidd y Fedal Ryddiaith y llynedd, ‘Rhyngom’.

Mi fydd yn wythnos brysur yn bersonol, gan fy mod i’n perfformio yn ‘Parti Priodas’, Theatr Genedlaethol Cymru, drama llawn hiwmor ond sydd hefyd yn torri’r galon gan Gruffudd Eifion Owen, a hefyd yn cystadlu yn y gystadleuaeth drama fer gyda Chwmni Drama Llanystumdwy yn y ddrama ‘Pwy?’ gan Brian Ifans.
Mae’r traddodiad theatr yn gryf yn Llanystumdwy, ac mae dylanwad Wil Sam Jones a Chwmni’r Gegin yn dal yn fyw yn yr ardal.
Arweinia hyn at ddigwyddiadau eraill ‘dwi’n edrych ymlaen atynt, sef cynhyrchiad Bara Caws o ‘Dinas’ gan WS Jones ac Emyr Humphreys a berfformir yn Neuadd Dwyfor, a sgwrs yn y Babell Lên i gofio ‘Dau Frawd Difyr, Dawnus’ sef WS ac Elis Gwyn: a’r ddau frawd difyr, dawnus sy’n cymryd rhan yn y sesiwn yw Gwilym Dwyfor a Gwyn Eiddior, sef wyrion WS.
Fysa well imi hefyd roi mensh i’r dyn pwysig arall yna o Lanystumdwy. Cadwch lygad am ddrws enwog rhif 10 ar y Maes, a hanes David Lloyd George gan gwmni Mewn Cymeriad.
Dwi am gloi drwy sôn am sgwrs fydd yn cloi’r wythnos theatrig, sef honno rhwng Aled Jones Williams a Ffion Dafis – dramodydd ac actores ‘Anweledig’, a sut mae archwilio’r gorau a’r gwaethaf o ddynoliaeth mewn llenyddiaeth.
Mae’n amhosib crynhoi pob digwyddiad, ond ‘dwi wir yn gobeithio y cewch chi gyfle i fwynhau cymaint o ddigwyddiadau theatr â phosib!
Dyma erthygl sy’n rhan o gyfres nodwedd sydd wedi eu paratoi ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae awduron yr erthyglau yn cynnwys Eryl Crump, Siân Teifi, Mared Llywelyn a Twm Herd.