Hanes yr Eisteddfod yn Eifionydd
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardal y Brifwyl eleni yn gyntaf yn 1872, ac ers hynny ymwelodd â threfi a phentrefi Llŷn ac Eifionydd chwe gwaith.
Ond ’doedd yr ymweliad cyntaf hwnnw ddim yn un swyddogol. Disgrifiwyd yr Eisteddfod, a gynhaliwyd yn Nhremadog, fel Eisteddfod Gadeiriol Eryri, neu Eisteddfod Fawreddog Porthmadog.
Beth bynnag y disgrifiad swyddogol, roedd cynnwrf mawr yn yr ardal, gyda phapur newydd ‘Y Dydd’ yn disgrifio’r rhagolygon yn “rhagorol” gyda’r tri o wŷr blaenllaw’r ardal fel llywyddion yr Ŵyl – Yr Arglwyddi Mostyn a Phenrhyn a’r Aelod Seneddol Syr Watkin Williams-Wynn.
Yn ystod y diwrnod cyntaf, cafwyd amrywiol gystadlaethau, a chyflwynwyd gwobrau hael (buasai gini heddiw gyfystyr â gwobr o tua £150). Un prynhawn, cynhaliwyd cystadleuaeth hollti llechi rhwng chwarelwyr y cymdogaethau, ac Anne Jones, Llanfihangel wobrwywyd am weu’r pâr hosannau gorau.
Yn ôl ‘Y Goleuad’, “rhoddodd hwynt i’r Arglwydd Penrhyn a dywedodd yr arweinydd, Mynyddog, ei fod yn gobeithio na theimlai ei arglwyddiaeth byth mwy annwyd o’i draed”.
Yn ôl ‘Seren Cymru’, dau gyfansoddiad ddaeth i law ar gyfer cystadleuaeth y Gadair. Yr oedd un “yn wael iawn ac yn llawn gwallau cynganeddol a syniadau dichwaeth. Yr oedd y llall, Tubal Cain, yn tra rhagori ac o’r radd oreu”.
Tubal Cain oedd ffugenw Hugh Pugh (Clynog) o’r Brithdir ger Dolgellau. Doedd dim gwobr o Goron yn yr Eisteddfod hon, ond roedd 21 wedi ymgeisio am yr awdl heb fod dros 200 o linellau i’r ‘Mab Afradlon’, a’r gorau oedd William Jones (Greuenyn), fyntau hefyd o’r Brithdir.
Dywedodd ‘Y Goleuad’ bod yr Eisteddfod wedi gorffen gyda’r gynulleidfa’n canu ‘Duw gadwo’r Frenhines’.
Canrif yn ddiweddarach...
Aeth bron i ganrif heibio cyn i’r Eisteddfod ddychwelyd i Eifionydd, ac un o feirdd amlycaf Cymru enillodd Cadair Prifwyl Bro Dwyfor 1975 yng Nghricieth.
Gwobrwywyd Gerallt Lloyd Owen am ei awdl ‘Afon’, sy’n disgrifio’i brofiadau yn fachgen yn chwarae ar lan yr afon, ac sydd hefyd yn darlunio’r afon fel symbol o fywyd.
Disgrifiwyd y bardd gan y beirniaid fel “sylwr ac arlunydd craff: bardd hamddenol sy’n dod â’r newydd a’r hen allan o’i drysordy”, ac ychwanegwyd “fod ganddo’r ddawn i roi ystyr newydd i bethau cyffredin”.
Yn ei adroddiad o’r seremoni, dywedodd gohebydd y ‘Daily Post’, “Mae wedi ennill cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd deirgwaith. Dywedodd bod ganddo drafferth ffendio lle iddynt i gyd gan ei fod yn byw mewn tŷ bychan, ond ei fod yn eistedd ynddynt i gyd yn eu tro.”
Roedd 16 wedi danfon eu gwaith at y beirniaid, a 40 am y Goron, a ddyfarnwyd i’r gwyddonydd Elwyn Roberts, yn wreiddiol o Langian ym Mhen Llŷn. Dywedodd y beirniaid bod gwaith ‘Gwion’ fel “libreto dymunol i gerddoriaeth”, ac fe gydnabuwyd y gallasai’r wobr fod wedi mynd i dri neu bedwar o’r beirdd.
Rhedeg allan o gwrw!
Ac yn dra gwahanol i’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Nhremadog, roedd y tywydd yng Nghricieth ar ddechrau Awst 1975 yn llawer gwell. Yn wir, roedd y tywydd mor heulog, rhedodd un dafarn allan o wydrau cwrw, a bu’n rhaid rhuthro cyflenwad o 9,000 o wydrau newydd o’r cyfanwerthwr yn Lerpwl i ateb y gofyn.
Yn y dyddiau hynny roedd yr Eisteddfod yn dechrau ar ddydd Llun, ond bu bron iddi gael ei chanslo’n gyfangwbl wrth i Gyngor yr Eisteddfod glywed honiadau gan Dr Thomas Parry nad oedd gan y Pafiliwn dystysgrif ddiogelwch.
Cyhuddodd y Cyngor o “lusgo eu traed” ar ôl prynu’r Pafiliwn ail-law am £70,000 ar ôl Eisteddfod Caerfyrddin y flwyddyn gynt, a hwnnw wedi’i ddifrodi gan fandaliaid wedi i’r Eisteddfod ddod i ben.
O’i ailgodi yng Nghricieth, dywedodd bod ei gyflwr yn golygu y gellid bod wedi gwrthod tystysgrif diogelwch, a bu’n rhaid i’r contractwyr o Nottingham wneud gwaith brys ar yr adeilad i ddod ag ef i safon dderbyniol.
Dychwelodd y Pafiliwn fu’n destun trafod yng Nghricieth ddeuddeg mlynedd ynghynt i Eifionydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog 1987. Ond dyma’r tro olaf i’r adeilad, oedd yn cynnig seddau i hyd at 7,000 o bobl, gael ei ddefnyddio
Eisteddfod Bro Madog oedd y Brifwyl olaf i Bryn Terfel o Bant Glas gystadlu ynddi. Yn 22 oed, roedd yn astudio canu yn y Guildhall yn Llundain ac ar fin cychwyn gyrfa fel canwr opera.
Ym Mro Madog yr enillodd y Rhuban Glas i rai o dan 25 oed, ac yn y gystadleuaeth roedd tri o’r pedwar cystadleuydd – Bryn, John Eifion Jones a Manon Wyn – yn gyn-ddisgyblion a ffrindiau o Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes.
Ers hynny mae wedi cydnabod ei ddyled i’r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau eraill am gynnig llwyfan iddo fagu’i ddawn
Canu Ieuan Wyn
Cerdd yn talu teyrnged i’w daid a’i nain ac i hen gymunedau chwareli gogledd Cymru enillodd Cadair 1987 i leuan Wyn o Fethesda. Ysgrifennodd am ei brofiadau wrth wagio tŷ ei nain yn fuan wedi iddi farw, a dod o hyd i hen luniau teuluol.
Mae’r gerdd ‘Llanw a Thrai’ hefyd yn trafod digwyddiadau dramatig cyfnod Streic Fawr Chwarel y Penrhyn.
Gwireddwyd breuddwyd John Gruffydd Jones, cemegydd o Abergele, ond yn wreiddiol o Ben Llŷn, pan enillodd y Goron am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Breuddwydion’.
Ac nid y Goron oedd yr unig wobr iddo’i chludo adref, gan iddo fynd o’r Maes i orsaf rheilffordd Porthmadog lle enwyd injan yn ‘Eisteddfod Genedlaethol’.
Derbyniodd Mr Jones lun wedi’i fframio o’r injan gyda’r enw arni, ac fe nododd y ‘Daily Post’ ei fod yn “very chuffed” wrth dderbyn yr anrheg
Bydd arddangosfa arbennig sy’n dathlu Eisteddfod Bro Dwyfor 1975 i’w gweld yng Nghricieth yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw am ganiatâd i ddefnyddio’r lluniau o 1975.
Meddai Clerc Cyngor Cricieth, Catrin Jones ar ran Croeso Cricieth, grŵp o bobl leol sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r Cyngor, “Rydyn ni yma yng Nghricieth yn teimlo’n hynod gyffrous i fod yn rhan o gofnodi atgofion Eisteddfod Bro Dwyfor drwy lygaid plant, ieuenctid ac oedolion 1975 ar gyfer Casgliad y Werin Cymru ac Arddangosfa Stryd Fawr Cricieth i groesawu ’Steddfod eleni.”
Dyma erthygl sy’n rhan o gyfres nodwedd sydd wedi eu paratoi ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae awduron yr erthyglau yn cynnwys Eryl Crump, Siân Teifi, Mared Llywelyn a Twm Herd.