Ymgyrchwyr prisiau ynni yn flin wedi i berchennog British Gas wneud elw o £6.5bn

British Gas

Mae ymgyrchwyr wedi mynegi eu dicter wedi i elw perchennog British Gas, Centrica, gynyddu i £6.5bn.

Roedd hynny’n golygu bod enillion y cwmni - sef faint o arian sy’n weddill ar ôl costau - wedi cynyddu 900%.

Dywedodd Simon Francis, cyfarwyddwr End Fuel Poverty Coalition ei fod yn arwydd bod system ynni Prydain “wedi torri”.

“Mae’n dod ar adeg pan mae dyled cartrefi yn codi i’r uchaf erioed ac mae biliau ynni ddwywaith beth oedden nhw ychydig flynyddoedd yn ôl,” meddai.

“Bydd yr elw sydd wedi ei gyhoeddi heddiw yn anghredadwy i’r rheini sydd wedi gorfod brwydro drwy’r flwyddyn ddiwethaf.

“Y gwirionedd yw bod y cwmnïoedd ynni yma yn gweithio o fewn y rheolau sydd wedi eu gosod gan y Llywodraeth.”

Dywedodd Centrica eu bod nhw wedi gwneud colled o hanner biliwn yn hanner cyntaf 2022 oherwydd y cap ar ynni.

Ym mis Hydref y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai biliau arferol yn cael eu cyfyngu i £2,500.

Cafodd y cap ar brisiau ynni ei ostwng i £2,074 ar 1 Gorffennaf.

“Cafodd lwfansau i adennill y gost eu cyflwyno i’r cap prisiau o fis Ebrill 2022, ac fe barhaodd yr adferiad hyd at hanner cyntaf 2023,” medden nhw.

‘Arian mawr’

Dywedodd cwmni Shell nad oedden nhw wedi gwneud cystal, gyda’u henillion yn haneru yn y tri mis nes mis Mehefin o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Ond fe wnaeth y cwmni enillion o £3.9bn o’i gymharu â £8.9bn y llynedd.

Dywedodd Jonathan Noronha-Gant, o’r grŵp ymgyrchu Global Witness, fod miliynau o bobl eisoes yn dioddef yn sgil newid hinsawdd.

“Tra bod y blaned yn llosgi, mae Shell yn gwneud biliynau mewn elw ac yn talu arian mawr enfawr i’w cyfranddalwyr,” meddai.

Llun gan Owen Humphreys / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.