Newyddion S4C

Cyhoeddi Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T 2021

01/06/2021
Eisteddfod T

Alaw Grug Evans, 19 oed o Bontyberem yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T. 

Y delynores Catrin Finch fu'n beirniadu'r gystadleuaeth, gydag Alaw yn cael ei gwobrwyo mewn seremoni arbennig a oedd yn cael ei darlledu’n fyw o Wersyll yr Urdd Llangrannog ddydd Mawrth.

Dyma ail ddiwrnod o gystadlu'r ŵyl.

Mae Alaw yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn o gerddoriaeth dim mwy na 3 munud o hyd ar unrhyw thema.

Yn ôl y beirniad Catrin Finch, roedd cyfansoddiad y tri a ddaeth i’r brig wedi creu argraff arni, gyda’r ensemble a gyflwynodd Alaw o dan y ffugenw ‘Siarad Mân’ yn “ysbrydoledig”, “gwybodus” a “phrydferth”.

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin mae Alaw yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines ym Mhrifysgol Rhydychen.

Er i Alaw gystadlu’n llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd, dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn y cyfansoddi.

Cyfansoddodd ‘Pwyll a Rhiannon’ fel rhan o gyfres o bedwar darn sy’n seiliedig ar geinciau’r Mabinogi, a gobaith Alaw yw cyfansoddi’r drydedd gainc yn y flwyddyn nesaf.

Image
Eisteddfod T
Catrin Finch yn traddodi'r feirniadaeth. Llun: S4C

Yn ei beirniadaeth, dywedodd Catrin Finch: “Ges i bleser mawr yn beirniadu cystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr eleni, ac i sylweddoli faint o gyfansoddwyr talentog ifanc sydd yma yng Nghymru. Mi roedd o mor galonogol i dystio i safon y cyfansoddi ac i sylweddoli pa mor ‘fyw ac iach’ mae cerddoriaeth ysbrydoledig pobol ifanc o’n cwmpas ni.

“Mi wnaeth ‘Siarad Mân’ ddewis ensemble ychydig yn wahanol - violin, viola, soddgrwth, trwmped a thelyn... Wnaeth lwyddo i greu darlun hefo defnydd o harmonies ac alawon hyfryd a diddorol. Patrymau yn gwehyddu a nodau yn gweu at ei gilydd. Mi oeddwn i eisiau gwrando ar fwy!”

Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Ioan Rees o Gyffylliog ger Rhuthun a Celt John o Ddolgellau oedd yn drydydd.

Dilynwch holl gystadlaethau Eisteddfod T ar S4C drwy gydol yr wythnos, neu gwyliwch ar alw ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.