Newyddion S4C

Undeb Rygbi Cymru yn addo 'cynnydd sylweddol' yn ei ddefnydd o'r Gymraeg

24/07/2023

Undeb Rygbi Cymru yn addo 'cynnydd sylweddol' yn ei ddefnydd o'r Gymraeg

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn gwneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg o fewn y sefydliad. 

Ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, cyhoeddodd Prif Weithredwr dros dro URC, Nigel Walker, Bolisi Iaith Gymraeg diwygiedig yr Undeb, sy'n ymrwymo i "gynnydd sylweddol" mewn faint o Gymraeg y bydd yn ei ddefnyddio.

Bydd prif gyhoeddiadau'r Undeb, gan gynnwys y prif ddatganiadau i'r wasg, adroddiadau gemau rhyngwladol a straeon newyddion mawr eraill ar gael yn Gymraeg a Saesneg a bydd cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn fewnol hefyd yn cael ei argymell a'i annog, medden nhw.

Mae "ymrwymiad cadarn" i arwyddion newydd a pherthnasol o amgylch Stadiwm Principality fod yn ddwyieithog, medden nhw, a bydd cyhoeddiadau a chyfathrebiadau eraill yr undeb, gan gynnwys rhaglenni gemau rhyngwladol ac amrywiaeth o ddarpariaeth ar-lein, yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. 

Dywedodd Nigel Walker Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru: "Mae ystyried a hyrwyddo'r Gymraeg ym mhopeth a gynigiwn i'n cyhoedd yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl. 

"Byddwn yn gwella ein darpariaeth a'n gwasanaethau ac yn croesawu'r cyfleoedd newydd y bydd hyrwyddo'r Gymraeg yn eu cynnig i ni a'n cefnogwyr."

'Cynnig Cymraeg'

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cydnabod ymrwymiad URC i wella ei ddarpariaeth Gymraeg yn lansiad y polisi newydd ddydd Llun, gan roi i'r sefydliad y statws 'Cynnig Cymraeg'. 

Mae'r 'Cynnig Cymraeg’ yn gydnabyddiaeth gan y Comisiynydd bod gan y sefydliad gynllun cryf sydd ac wedi ymrwymo i wella eu gwasanaethau yn Gymraeg.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, "Hoffwn alluogi mwy o bobl i ddefnyddio’u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Er mwyn sicrhau hynny mae angen i’r Gymraeg gael ei chlywed yn naturiol ymhobman, boed hynny yn gymunedol, yn y maes celfyddydol ac wrth gwrs yn y byd chwaraeon.

"Mae Undeb Rygbi Cymru yn chwarae rhan fawr ym mywyd Cymru – ac rwy’n croesawu’n fawr yr ymrwymiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw i’r Gymraeg. Rwy’n arbennig o falch o allu rhoi cymeradwyaeth i’w Cynnig Cymraeg, ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Undeb wrth i’w cynlluniau gael eu datblygu."    

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd yn gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg i’w staff.

Bydd y Ganolfan Genedlaethol yn darparu cyrsiau wedi’u teilwra, dan arweiniad tiwtor, i dros 100 o aelodau staff sydd wedi dweud eu bod nhw eisiau dysgu’r iaith neu gryfhau eu sgiliau Cymraeg.  

Bydd hyfforddiant ar wahanol lefelau dysgu, o ddechreuwyr i godi hyder, a bydd modd i staff gael mynediad at dros 1,500 o adnoddau dysgu digidol rhad ac am ddim a ddatblygwyd gan y Ganolfan.

Bydd sesiwn flasu rad ac am ddim, ar thema rygbi, yn cael ei chynnal yn rhithiol gan y Ganolfan Genedlaethol ar 6 Medi, fel rhan o’r fenter newydd. 

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, "Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn falch o weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i greu cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn ystod y cyfnod yn arwain at Gwpan Rygbi’r Byd, a thu hwnt.

"Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae croeso i bawb ddysgu’r iaith gyda ni.  Byddwn yn datblygu rhaglen benodol o hyfforddiant i gefnogi dysgwyr o’r gymuned rygbi, a dan ni’n edrych ymlaen hefyd at gefnogi tîm rygbi Cymru dros y misoedd nesaf."

Llun gan Ben Evans/Huw Evans Agency

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.