Sebona Fi: Cân Yws Gwynedd yn cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau
Mae cân boblogaidd Yws Gwynedd, 'Sebona Fi', wedi cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar wasanaeth ffrydio Spotify.
Fe wnaeth y gân boblogaidd, a gafodd ei rhyddhau yn 2014, gyrraedd y garreg filltir nodedig ddydd Sul.
Dyma’r wythfed gân yn yr iaith Gymraeg i gyrraedd miliwn o ffrydiau.
Hon di cael ei ffrydio 1m o weithia ar Spotify. 8fed cân Gymraeg i neud.
— Ywain Gwynedd (@ywsgwynedd) July 23, 2023
Diolch i bawb sy di gwrando, pob athro sy di chwara hi i’r dosbarth, pob DJ sy di dewis hi yn eu set, pob un o’r myfyrwyr sy di dangos hi i housemates di-Gymraeg, a CHI GYD am ganu hi efo ni yn y gigs ❤️ pic.twitter.com/yytkylhCpI
Dywedodd Yws wrth ei ddilynwyr ei Twitter: “Hon di cael ei ffrydio 1m o weithia ar Spotify. 8fed cân Gymraeg i neud.
“Diolch i bawb sy di gwrando, pob athro sy di chwara hi i’r dosbarth, pob DJ sy di dewis hi yn eu set, pob un o’r myfyrwyr sy di dangos hi i housemates di-Gymraeg, a CHI GYD am ganu hi efo ni yn y gigs.”
Mewn ymateb i neges arall, ychwanegodd: “Hollol boncyrs, ma’n cal tua 800 o streams pob dydd ar Spotify. Heb feddwl fysa posib creu’r ffasiwn anghenfil.”
Y gân ‘Gwenwyn’ gan Alffa, oedd y gân Cymraeg gyntaf i gael ei ffrydio miliwn o weithiau, gan gyrraedd y rhif hwnnw yn 2018.
Y caneuon eraill sydd ar y rhestr yw 'Patio Song' a 'Sbia ar y Seren' gan Gorky’s Zygotic Mynci, 'Dan y Dŵr' gan Enya, 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan ac Ar Log, 'Pla' gan Alffa ac 'Fel i Fod' gan Adwaith.