Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ym Mhowys ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd am tua 14:00 ar ffordd B4520 Capel Uchaf, ger Llanfair-ym-Muallt.
Beic modur KTM Duke oedd y cerbyd yn y gwrthdrawiad ac mae'r heddlu wedi cadarnhau fod y beiciwr wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae perthnasau agosaf y beiciwr wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth swyddogion.
Cafodd y ffordd ei chau gyda gwiriadau yn ei lle, cyn cael ei hail-agor am 21:00.
Mae gofyn i unrhyw a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth i swyddogion gyda'u hymchwiliad i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101 gan ddefnyddio cyfeirnod DP-20210531-201.