Covid-19: Brechlyn 'atgyfnerthu' i'w dreialu yng Nghymru

Bydd gwirfoddolwyr yng Nghymru yn cymryd rhan mewn treialon clinigol newydd i dderbyn trydydd brechlyn 'atgyfnerthu' Covid-19.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar bobl dros 30 oed sy'n byw o fewn 50 milltir i Wrecsam ac sydd wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn Covid-19 i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Mae'r astudiaeth COV-Boost, sy'n cael ei rhedeg yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, yn cael ei chynnal mewn 18 o safleoedd yn y DU a bydd yn cynnwys 2,886 o wirfoddolwyr.
Mae'r treial yn edrych ar saith brechlyn gwahanol fel atgyfnerthwyr posib, sy'n cael eu rhoi o leiaf 10 i 12 wythnos ar ôl ail ddos brechlyn Covid-19.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall y gwirfoddolwyr dderbyn math gwahanol o frechlyn i'r un a gawsant fel eu brechiadau blaenorol.
Dyma’r astudiaeth gyntaf yn y byd i ddarparu data hanfodol ar effaith trydydd dos ar ymatebion imiwnedd cleifion.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy a chofrestru ymweld â gwefan yr astudiaeth.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru