Traean yn llai o bobl yn dilyn canllawiau Covid-19

Pobl yn y parc
Mae traean yn llai o bobl yn dilyn canllawiau Covid-19 yng Nghymru, yn ôl ymchwil.
Roedd un arbenigwr a oedd yn dadansoddi'r canlyniadau yn dweud fod yna bryderon dros "amryw o negeseuon" yn achosi dryswch.
Mae'r ymchwil gan Prifysgol Coleg Llundain yn awgrymu bod y nifer sydd yn cadw at reolau Covid-19 wedi disgyn o 60% yn Chwefror i 40% yn Mai.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru rybuddio nad oedd y pandemig ar ben yn sgil twf amrywiolion newydd o coronafeirws.