Eädyth a Izzy Rabey yn dweud na fyddan nhw’n perfformio ym mhafiliwn yr Eisteddfod heb newid i'r polisi iaith

19/06/2023
Eädyth a Izzy Rabey

Mae’r artistiaid Eädyth ac Izzy Rabey wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu perfformio ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol os nad yw rheol iaith y brifwyl yn cael ei newid i ganiatáu perfformio’n ddwyieithog.

Mewn datganiad fe ddywedon nhw fod “dwyieithrwydd yn greiddiol i’r modd yr ydym yn mynegi ein hunaniaeth Gymreig, ac yn ei ddathlu”.

Roedd enwau'r ddwy wedi eu cyhoeddi ymysg artistiaid a fyddai yn perfformio yn y pafiliwn ar ddydd Iau 10 Awst.

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol mewn ymateb: "Rydyn ni wedi derbyn ebost gan Izzy Rabey ynglŷn â’i pherfformiad yn yr Eisteddfod y bore ‘ma. Byddwn yn ymateb iddi hi’n bersonol ac nid drwy’r wasg a’r cyfryngau."

Ond fore Llun, cyhoeddodd Izzy Rabey nad oedden nhw bellach yn bwriadu perfformio os nad oedd y polisi iaith yn newid, er mwyn dangos cefnogaeth at Sage Todz a DJ Jaffa.

Dywedodd Sage Todz ddechrau’r mis na fyddai yn perfformio yn yr Eisteddfod am eu bod nhw’n teimlo fod yna ormod o Saesneg yn ei ganeuon.

Ychwanegodd yn ddiweddarach nad oedd yn protestio a’i fod yn parchu’r rheol Gymraeg, sydd wedi bod yn ei lle ers 1952.

Ond denodd ei neges gryn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd DJ Jaffa y byddai ef hefyd yn tynnu allan o’r digwyddiad ‘Huw Stephens yn cyflwyno’ yn y pafiliwn ar 10 Awst.

Fore dydd Llun, awgrymodd Izzy Rabey y byddai hi a Eadyth Crawford yn gwneud yr un peth os nad oedd llacio ar y polisi iaith.

“Ni fyddai Eadyth na minnau yn perfformio yn gig y Pafiliwn os nad yw’r Eisteddfod yn newid y polisi iaith tuag at artistiaid maen nhw’n wahodd i berfformio,” meddai.

“Ac fod y bwrdd yn cael cyfarfod gyda ni a perfformwyr arall.”

Ychwanegodd yn y datganiad: “Mae gofyn i artistiaid sy’n ysgrifennu yn ddwyieithog newid geiriau nid yn unig yn cwestiynu gwir gymhellion pam y gwnaethoch ein cyflogi yn y lle cyntaf, mae hefyd yn awgrymu ac yn parhau’r syniad nad yw ein mynegiant o brofiadau ein bywydau fel Cymry yn gynrychiolaeth o delerau a safonau sy’n cyd-fynd a’r hyn y mae’r Eisteddfod yn ei ystyried yn ‘gadwraeth ddiwylliannol’ ac yn ‘ddathliad ieithyddol’.”

‘Cynhwysol’

Mewn datganiad yn dilyn cyhoeddiad Sage Todz, dywedodd Ashok Ahir, Cadeirydd Bwrdd Rheoli a Llywydd Llys yr Eisteddfod, eu bod yn “parchu” ei “angerdd a’i ymrwymiad”.

Pwysleisiodd yn y datganiad mai “gŵyl Gymraeg yw'r Eisteddfod Genedlaethol, ac rydyn ni'n ymfalchïo’n fawr mewn dathlu iaith ar draws pob genre o'r celfyddydau”.

“Rydyn ni'n creu llawer o gyfleoedd i artistiaid berfformio yn Gymraeg am y tro cyntaf,” meddai.

"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda nifer o bartneriaid i wneud y Gymraeg yn hygyrch i ystod ehangach o unigolion a grwpiau.

“Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n gweithio yn y sector creadigol nad ydynt yn hyderus, neu sy'n newydd i'r iaith.

"Perfformio cystadlu a thrafod yn y Gymraeg - a dim ond yn y Gymraeg - yw prif bwrpas yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer yr un wythnos yn y flwyddyn pan y cynhelir yr ŵyl.

"Rydyn ni'n parchu angerdd ac ymrwymiad Sage Todz i'r ieithoedd y mae'n dewis eu defnyddio yn ei gerddoriaeth. Ei benderfyniad of oedd ei fod yn dymuno perfformio yn Saesneg ac yn ddwyieithog yn unig.

“Roedden ni'n awyddus iddo berfformio yn yr ŵyl ac rydyn ni'n parchu ei benderfyniad i beidio â pherfformio yn y Gymraeg yn unig.

"Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymrwymedig i fod yn wyl gynhwysol sy'n parchu ac yn dathlu amrywiaeth yn ein holl weithgareddau a gweithdrefnau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.