Rhagolwg rhanbarthau Cymru yn Rownd 4 Cwpan yr Enfys

S4C  Chwaraeon 28/05/2021
Scarlets v Gleision
Scarlets v Gleision

Mae pythefnos wedi mynd heibio ers i’r rhanbarthau chwarae ddiwethaf yng Nghwpan yr Enfys ac mi fydd pob un wedi defnyddio’r amser yna yn gweithio ar elfennau o’u gêm sydd angen sylw.

Gyda dau ranbarth yn chwarae'r penwythnos hwn, bydd modd gwylio’r ddwy gêm ar S4C, gyda darllediad byw o'r Dreigiau v Glasgow, a darllediad gohiriedig o Munster v Gleision Caerdydd i’w fwynhau yn ei gyfanrwydd ar brynhawn dydd Sul.

Dydd Gwener 28 Mai

Munster v Gleision Caerdydd - CG 19:35 (i’w gweld ar S4C am 17.30 nos Sul)

Mi fyddai perfformiad hanner cyntaf Gleision Caerdydd yn erbyn y Scarlets bythefnos yn ôl wedi codi gwên ar wynebau cefnogwyr, gyda symudiadau chwim a cheisiau hyfryd i’w mwynhau. Ond dim ond pwysau gwaed y cefnogwyr fyddai wedi codi yn ystod yr ail hanner, wrth i’r tîm wastraffu cyfleoedd a bron gadael i’r tîm cartref gipio buddugoliaeth annhebygol iawn.

Gyda’r bêl yn eu dwylo, mae’r Gleision yn gallu achosi problemau i unrhyw amddiffyn, ond maen nhw’n euog o fod yn rhy hawdd i sgorio yn eu herbyn ar adegau, ac mae hynny yn rhywbeth fydd angen iddyn nhw dynhau os maen nhw eisiau ennill yn Munster nos Wener.

Mae Dai Young wedi dewis pac corfforol i gystadlu â’r tîm cartref, gyda James Ratti yn parhau yn y crys rhif wyth, gyda Josh Turnbull a James Botham ar y naill ochr yn y rheng ôl. Mae Ben Thomas yn cadw ei le wrth ymyl Willis Halaholo yng nghanol y cae, tra bydd disgwyl i Tomos Williams a Jarrod Evans lywio’r chwarae yn synhwyrol, a chwarae’r bêl pan fo’r cyfleoedd yn codi. Heb os, mi fydd hwn yn brawf mawr i Gaerdydd, a bydd rhaid iddyn nhw herio Munster yn y mannau gosod i gael unrhyw obaith o ddychwelyd o Limerick yn fuddugol.

Dydd Sadwrn 29 Mai

Dreigiau v Glasgow Warriors – CG 19:35 (YN FYW AR S4C)

Bydd y Dreigiau yn dychwelyd i’r brifddinas ar gyfer eu gêm yn erbyn Glasgow Warriors nos Sadwrn, gyda gwaith yn cael ei wneud ar gae Rodney Parade. Mae Dean Ryan wedi dweud ei fod yn obeithiol bydd newid y lleoliad i Stadiwm Dinas Caerdydd yn gallu rhoi hwb i’w chwaraewyr.

Wedi colli dwy gêm allan o dair hyd yma yng Nghwpan yr Enfys, bydd sylw’r Dreigiau yn mynd ar barhau eu datblygiad ar gyfer tymor nesaf. Maen nhw wedi cymryd camau mawr dan Dean Ryan y tymor hwn ac mi fydden nhw’n awyddus i orffen y tymor yn gryf a dangos eu bod yn gallu cystadlu gyda mawrion y gystadleuaeth. Tydi Glasgow heb gael tymor i’w gofio, ac mi fydd y Dreigiau yn sicr yn targedu buddugoliaeth nos Sadwrn.

Mae Aneurin Owen a Jack Dixon yn dechrau fel canolwyr, gyda Jamie Roberts yn cymryd ei le ar y fainc. Gonzalo Bertranou sydd yn dechrau yn y crys rhif naw, tra bod golwg cryf i’r rheng-ôl unwaith eto, gyda Ollie Griffiths yn dychwelyd o anaf i gymryd ei le ar y flaenasgell agored, wrth ymyl Ross Moriarty a’r wythwr Aaron Wainwright. Gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C am 19:30 nos Sadwrn.

Ulster v Scarlets – *Wedi ei ohirio*

Yn ystod yr wythnos hon, roedd Scarlets yn ffarwelio â’r clo barfog, Jake Ball. Wedi chwarae 133 o weithiau dros y rhanbarth, a gyda hanner canrif o gapiau dros Gymru, mae’r chwaraewr ail-reng yn hedfan am Awstralia i ymuno â’i wraig a’i dri phlentyn ifanc. Yn sicr bydd colled fawr ar ei ôl yn Llanelli ac ym mhac Cymru.

Roedd y Scarlets i fod i deithio am Belfast i herio Ulster, cyn y cyhoeddiad fod y gêm wedi ei chanslo yn dilyn achosion o Covid-19 ymysg y tîm cartref.  O ganlyniad, bydd y gêm yn cael ei chofnodi fel un gyfartal.  Ni fydd y gêm yn cael ei hail-chwarae, ac mi fydd y Sosban yn hawlio pedwar pwynt.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.