Cymeradwyo defnyddio brechiad un dos cwmni Janssen yn y DU

Brechlyn i amddiffyn rhag Covid-19.
Mae brechlyn newydd i amddiffyn rhag Covid-19 wedi ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig - a dim ond un dos ohono fydd angen.
Mae brechlyn Janssen wedi cael caniatâd i gael ei ddefnyddio yn y wlad gan y rheoleiddwyr meddyginiaethau ac fe fydd ar gael yn ddiweddarach eleni.
Yn ôl The Evening Standard, mae'r DU wedi archebu 20 miliwn dos o'r brechlyn sydd wedi profi 67% yn effeithiol wrth amddiffyn rhag effeithiau cymedrol a difrifol Covid-19.
Darllenwch y stori'n llawn yma.