Meddyg yn Ysbyty Gwynedd yn rhybuddio am beryglon Covid-19
Meddyg yn Ysbyty Gwynedd yn rhybuddio am beryglon Covid-19
Mae Dr Gwenlli Jones yn erfyn ar bobl i lynu at y rheolau wrth i'r ysbyty wynebu’r “cyfnod gwaethaf” ers dechrau’r pandemig.
Daeth cyhoeddiad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Llun fod pump o wardiau oedolion yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi eu heffeithio gan Covid-19.
Yn ôl Dr Jones, dyma'r cyfnod gwaethaf i'r ysbyty ei wynebu ers dechrau'r pandemig, ac mae hi'n ofni y bydd pethau'n gwaethygu cyn gwella ar y wardiau.