Newyddion S4C

£15m i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru

car trydan yn gwefru

Bydd £15m yn cael ei fuddsoddi er mwyn cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.

Daw’r cam gan Lywodraeth Cymru ar ol derbyn beirniadaeth gan un o bwyllgorau’r Senedd nad oedd digon o bwyntiau gwefru yng Nghymru.

Dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ym mis Mawrth fod y llywodraeth wedi methu pump o'r naw o’u targedau eu hunain o ran gosod pwyntiau gwefru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y bydd angen y cyllid ychwanegol ar awdurdodau lleol i gyflwyno cyfleusterau gwefru cyn i gerbydau tanwydd ffosil gael eu diddymu'n raddol yn 2030.

Mae disgwyl i’r nifer sy’n berchen ar gerbydau trydan gynyddu'n aruthrol dros y degawd nesaf – i rhwng 100,000 a 284,000 o’i gymharu â’r 20,000 presennol – yn ôl cwmni SP Energy Networks.

"Mae angen i yrwyr fod â'r hyder i newid i gerbydau trydan wrth i'r galw gynyddu a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i greu seilwaith cerbydau trydan o ansawdd uchel ledled Cymru,” meddai Lee Waters.

"Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan y sector preifat ond ein rôl ni yw hwyluso buddsoddiadau'r sector preifat ledled Cymru a sicrhau mynediad cyfartal.

"Er mwyn helpu gyda hyn, rydym wedi creu tasglu'r sector preifat a fydd yn ymgysylltu â'r farchnad, yn chwalu unrhyw rwystrau rhag buddsoddi ac yn cyflymu'r broses o gyflwyno seilwaith gwefru.

"Mae'r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn gam arall i'r cyfeiriad cywir ond mae gennym ragor o waith i’w wneud - byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a'r sector preifat fel bod Cymru'n cadw i fyny â'r cynnydd cyflym yn nifer y cerbydau trydan." 

‘Cam pwysig’

Ymysg yr rheini a fydd yn derbyn arian mae Cyngor Wrecsam, sydd wedi derbyn £1 miliwn i gyflwyno cyfleusterau gwefru cerbydau trydan mewn canolfan wefru yng nghanol y ddinas yn ogystal â safleoedd mewn lleoliadau anghysbell, mwy gwledig ledled y sir. 

Meddai y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd Cyngor Wrecsam: "Rydym yn falch o dderbyn yr arian hwn a fydd yn ein galluogi i barhau â'n gwaith i helpu pobl i newid i Gerbydau Trydan drwy greu hyb symudedd yng nghanol y ddinas a hefyd gefnogi rhai o'n cymunedau llai a mwy gwledig gyda chyfleusterau i wefru cerbydau trydan lle nad oes modd iddynt barcio oddi ar y ffordd.

"Fel rhan o'r prosiect hwn, rydym hefyd yn bwriadu ychwanegu darpariaeth gynyddol i gefnogi teithio llesol a natur.

"Rydym yn awyddus i ddechrau ar y cam pwysig hwn ar y ffordd i leihau trafnidiaeth garbon i Wrecsam."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.