Covid-19: Tystiolaeth Cummings yn “ofnadwy o drist” i deulu gwraig fu farw

Covid-19: Tystiolaeth Cummings yn “ofnadwy o drist” i deulu gwraig fu farw

Newyddion S4C

Tri mis ers i Gwenda Wright o Gaernarfon farw gyda coronafeirws yn Ysbyty Gwynedd, mae ei theulu wedi siarad am eu tristwch o golli eu hanwylyd.

Roedd clywed tystiolaeth Dominic Cummings ar benderfyniadau gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod dyddiau cynnar y pandemig wedi eu tristau.

Dywedodd Catrin Bolton, nith Gwenda Wright, wrth raglen Newyddion S4C: “’Dan ni’n teimlo bod neb yn accountable a ‘dan ni fel cenedl angan cael yr atebion ac angan dysgu pam a ‘wbod pam bod petha’ ddim wedi gwella rhwng sut ‘naethon nhw ddelio gyda’r ton un, a pan ddoth y ton dau doedd ‘na ddim gwersi wedi eu dysgu”.

“Dyna beth o’dd Dominic Cummings yn ddeud a ma’ hynny’n siom fawr i ni fel teulu sydd wedi colli rhywun yn yr ail wave”, ychwanegodd.

Mae rhai yn honni fod gan Mr Cummings agenda i warchod ei hun ond hoffai deulu Gwenda Wright gael atebion.

Ychwanegodd Catrin Bolton: “Mae angen i rywun i edrych i fewn i’r achosion a be’ ma’ Dominic Cummings yn ddeud a ddylsa ‘na inquiry bod i bobl fel ni sydd wedi colli rhywun”.

Mae disgwyl ymchwiliad cyhoeddus i reolaeth y pandemig ddechrau flwyddyn nesaf.