Phillip Schofield: Mam Caroline Flack yn beirniadu ITV
Mae mam Caroline Flack wedi beirniadu ITV am y ffordd maent wedi ymdrin ag ymadawiad y cyflwynydd Phillip Schofield, gan ddweud bod y darlledwr wedi methu â dysgu gwersi o farwolaeth ei merch.
Caroline Flack oedd cyflwynydd y gyfres boblogaidd Love Island ar ITV.
“Dydi cyflwynwyr ddim yn cael eu hamddiffyn bob amser,” meddai Christine Flack wrth BBC Newsnight.
Mae Mr Schofield wedi ymddiheuro am ddweud celwydd am ei garwriaeth gudd a dywedodd ei fod wedi “colli popeth”.
Mae ITV yn dweud ei fod yn teimlo ei fod wedi "cael ei siomi'n arw" ac yn cymryd "dyletswydd gofal o ddifrif".
Fe wnaeth Ms Flack gyhuddo ITV o drin gweithwyr fel “nwyddau, aeth hi ymlaen i gwestiynu ôl-ofal ITV, gan ddweud: "Fe allen nhw gael rhywun yn siarad ar ei ran a dweud y gwir, boed yn gywir neu'n anghywir ... nid yw'n edrych yn dda a dweud y gwir."
Cafwyd hyd i Caroline Flack yn farw ym mis Chwefror 2020 yn 40 oed.
Yn Rhagfyr 2019 fe wnaeth Caroline Flack adael Love Island ar ôl cael ei chyhuddo o ymosod trwy guro.
Dyfarnodd crwner yn ddiweddarach iddi gymryd ei bywyd ei hun - ddiwrnod ar ôl clywed bod erlynwyr yn mynd i fwrw ymlaen â'r cyhuddiad o ymosod ar ôl digwyddiad yn ymwneud â'i chariad Lewis Burton.
‘Ofandwy’
Dywedodd Christine fod Phillip Schofield a'i gyn gariad yn mynd trwy "amser ofnadwy" ac fe wnaeth hi ei annog i beidio â gwneud "unrhyw beth gwirion".
Rhoddodd Mr Schofield ei gyfweliadau cyntaf yr wythnos hon, ar ôl cyfaddef iddo ddweud celwydd am gael perthynas â chydweithiwr gwrywaidd iau.
Pan ofynnwyd iddo sut yr oedd yn teimlo, dywedodd: "Rwy'n credu fy mod yn deall sut roedd Caroline Flack yn teimlo."
Mewn datganiad, dywedodd ITV: "Mae'r berthynas sydd gyda ni gyda'r rhai rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn seiliedig ar ymddiriedaeth… ac rydyn ni'n teimlo'n siomedig iawn.
“Fel cynhyrchydd a darlledwr, mae ITV yn cymryd ei gyfrifoldebau o amgylch dyletswydd gofal o ddifrif ac mae ganddo brosesau cadarn a sefydledig ar waith i gefnogi iechyd meddwl a chorfforol gweithwyr a phawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw.”
Mae ITV eisoes wedi gorchymyn adolygiad allanol i'r ffordd gafodd perthynas rhwng Phillip Schofield a'i gydweithiwr ei ymdrin.