Newyddion S4C

Llafur yn derbyn ail gŵyn swyddogol yn erbyn Geraint Davies AS

02/06/2023
Geraint Davies AS

Mae'r Blaid Lafur wedi derbyn ail gŵyn swyddogol yn erbyn aelod seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Llafur y byddai'r blaid yn annog pobl sydd â chwynion i ddod ymlaen fel y gellir ymchwilio iddynt a gweithredu.

Ddydd Iau fe dderbyniodd y blaid gŵyn swyddogol am ymddygiad Mr Davies, oedd wedi ei wahardd o'i waith yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol.

Dywedodd gwefan Politico fod menyw wedi cyflwyno'r gŵyn.

Aeth y wefan ymlaen i adrodd bod AS Llafur presennol wedi cofrestru cwyn yn erbyn Mr Davies.

Roedd y wefan wedi adrodd yn gynharach fod pum menyw wedi gwneud honiadau o aflonyddu rhywiol yn erbyn y gwleidydd.

Dywedodd Mr Davies nad oedd yn “cydnabod” yr honiadau, yn ôl Politico.

Mae'r penderfyniad i atal Mr Davies yn golygu y bydd yn colli'r chwip yn San Steffan tra bod adolygiad yn cael ei gynnal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.