Perfformiadau byw i gael dychwelyd i bob lleoliad ar unwaith
27/05/2021
Llwyfan
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd perfformiadau byw yn cael dychwelyd i bob lleoliad yng Nghymru, a hynny ar unwaith.
Mewn neges brynhawn dydd Iau, dywedodd llefarydd y bydd angen "asesiad risg llawn ar gyfer pob lleoliad yn unol â'r canllawiau sydd ar waith ar gyfer lletygarwch a chanllawiau perfformio y llywodraeth.
"Mae atal perfformiadau a digwyddiadau byw wedi bod yn ergyd fawr i'n lles cymdeithasol, economaidd a chelfyddydol", meddai'r llefarydd.
"Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth i'n sectorau cerddoriaeth a chelfyddydau drwy ein Cronfeydd Adferiad Diwylliannol, Llawrydd a Chadernid Economaidd."
Rhagor i ddilyn.