Phillip Schofield yn cyfaddef ei fod wedi cael perthynas ‘annoeth’ ond ‘cyfreithlon’ gyda dyn ifanc

Mae Phillip Schofield wedi dweud ei fod wedi cael perthynas “cyfreithlon” gyda dyn ifanc oedd yn gweithio i ITV.
Mewn datganiad i’r Daily Mail cyfaddefodd y cyflwynydd 61 oed ei fod wedi cwrdd â’r dyn pan oedd hwnnw yn laslanc.
Dywedodd fod y berthynas yn “annoeth” ond yn “gyfreithiol” a’i fod bellach “ar ben”.
Daw wrth i asiant Phillip Schofield, YMU, ddweud eu bod nhw wedi ei ollwng fel cleient ar ôl 35 mlynedd.
“Rwy’n boenus o ymwybodol fy mod wedi dweud celwydd wrth fy nghyflogwyr yn ITV, wrth fy nghydweithwyr a ffrindiau, i’m hasiant, i’r cyfryngau ac felly i’r cyhoedd ac yn bwysicaf oll wrth fy nheulu,” meddai Phillip Schofield wrth y Daily Mail.
Dywedodd YMU eu bod nhw wedi “dysgu gwybodaeth newydd” am Phillip Schofield a’u bod nhw wedi cytuno i roi'r gorau i'w gynrychioli o ganlyniad.
Mewn datganiad arall ddydd Gwener dywedodd Schofield: “Gyda’r gofid mwyaf, ar ôl 35 mlynedd o gael fy rheoli gan YMU, rwyf wedi cytuno i roi’r gorau i’w cynrychiolaeth ar unwaith.”
Fe wnaeth Phillip Schofield roi’r gorau i’w swydd fel cyflwynydd rhaglen ‘This Morning’ yr wythnos ddiwethaf.
Daeth hynny yn sgil adroddiadau o berthynas anodd gyda’i gyd-gyflwynwraig, Holly Willoughby.
Mae adroddiadau bod ei asiant wedi holi Schofield am y berthynas o'r blaen ac fe wnaeth wadu hynny.
Roedd y wybodaeth ffug honno wedyn wedi'i chyfleu i benaethiaid Schofield yn ITV.
'Gonestrwydd'
Dywedodd Mary Bekhait, Prif Weithredwr Grŵp YMU Group: “Mae gonestrwydd ac uniondeb yn werthoedd craidd ar gyfer YMU, gan ddiffinio popeth a wnawn.
“Mae rheoli talent yn berthynas sy'n seiliedig yn gyfan gwbl ar ymddiriedaeth.
“Yr wythnos hon, rydym wedi dysgu gwybodaeth newydd bwysig am ein cleient Phillip Schofield.
“Roedd y ffeithiau hyn yn gwrth-ddweud yr hyn yr oedd Phillip wedi'i ddweud wrth YMU yn flaenorol, yn ogystal â'r cynghorwyr allanol yr oeddem wedi dod â hwy i mewn i'w gefnogi.
“O ganlyniad, ddydd Iau fe wnaethom gytuno i rannu cwmni â Phillip, ar unwaith.”
Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Schofield, a oedd wedi bod yn briod am 27 mlynedd ar y pryd, yn ddagreuol ei fod yn hoyw.