Newyddion S4C

'Mae FFIT Cymru wedi achub fy mywyd i' medd gweinidog a oedd 'ar y dibyn'

27/05/2023

'Mae FFIT Cymru wedi achub fy mywyd i' medd gweinidog a oedd 'ar y dibyn'

Mae gweinidog o Wynedd wedi dweud bod cynllun FFIT Cymru wedi achub ei fywyd.

Penderfynodd Dylan Rhys, sydd bellach yn byw ym Mhen-y-bont i ymgeisio i fod yn rhan o'r rhaglen deledu er mwyn ceisio gwella ei iechyd a'i ffitrwydd.

Roedd yn pwyso bron i 30 stôn pan ddechreuodd ar y cynllun, ac wedi derbyn canlyniadau meddygol am ei iechyd a oedd yn golygu nad oedd yn cael rhedeg.

Ond deufis yn ddiweddarach mae Mr Rhys, sy'n 34 oed, wedi colli tair stôn a tri phwys ac yn parhau i gadw at y cynllun wedi i'r camerâu mynd i ffwrdd.

"Dwi 'di trawsnewid fy mywyd i mewn gwirionedd, ers y cychwyn un rwan, y saith wythnos dwi 'di colli tair stôn tri pwys a ti'n gwbo', i rywun o'dd yn cychwyn yn yr wythnos gynta'n meddwl 'Faint fyswn i'n golli mewn gwirionedd?' neu 'Faint o bell allai neud o?'," meddai.

"Oni methu rhedeg hyd yn oed reit ar y cychwyn, d'on i'm yn cael rhedeg oherwydd bod y lefela'r gwaed yn uchel. Ag i feddwl bod fi wedi gallu rhedag 5k bellach yn Park Run yn Y Bala, ma' hwnna jyst yn golygu'r byd i mi ond ma rhaid i fi cario 'mlaen rwan."

'Ar y dibyn'

Cyn iddo gychwyn ar ei daith â FFIT Cymru, doedd iechyd meddwl Dylan Rhys ddim yn dda iawn, meddai.

Datgelodd nad oedd yn hoffi edrych ar ei hun yn y drych a dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod "ar y dibyn".

Ond roedd dechrau ar y cynllun wedi gwella pethau'n sylweddol iddo.

"Dwi'n credu bod FFIT Cymru wedi achub fy mywyd i," meddai.

"Mi o'dd canlyniada gesh i ar y cychwyn yn dangos mod i yn beryg iawn o ran 'y mhwysa i," meddai.

"Oni'n berryg iawn o ran yr inches ar y bol hefyd. Ond pethau fel y visceral fat hefyd, o'dd hwnna'n 37% sef y gwaetha' ma' nhw 'di weld yn hanes FFIT Cymru.

"Ag neshi dorri lawr i grio ar ôl  bod yn y stiwdio glywed huna. Ma' hwnna 'di bod yn wake up call, oni ar y dibyn yn llythrennol.

"Ag ma' diolch i'r arbennigwyr. I Rae, i Connagh, i Beca ac i Dr Ioan ma' nhw 'di rhoi y tools i fi rwan i gamu nôl oddi wrth i dibyn ac i bwyntio'r ffordd arall."

Image
Dylan Rhys
Roedd Dylan Rhys yn pwyso bron i 30 stôn a methu edrych ar ei hun yn y drych.

 

Dyfodol disglair

Wedi iddo oresgyn un her nad oedd yn meddwl oedd yn bosib, mae'r gweinidog yn anelu at barhau i wella ei ffitrwydd.

Mae bellach eisiau cwblhau hanner marathon Caerdydd ym mis Hydref. Fe fydd holl arweinwyr FFIT Cymru eleni yn gwneud y ras gyda'i gilydd.

"Dwi'n edrych ymlaen i'r dyfodol, d'on i ddim yn edrych ymlaen i'r dyfodol oherwydd mi o'dd gynna fi broblema iechyd, ma' gynno fi sleep apnea hefyd sydd yn achosi problema cysgu," meddai.

"Ag o'dd hwnna hefyd yn ychwanegu at y broblam ac felly ma' gneud y  cynllun yn golygu rwan bo' fi'n cymryd control yn ôl o mywyd i."

Image
Dylan Rhys
Mae'r gweinidog wedi colli tair stôn mewn saith wythnos. Llun: FFIT Cymru

"Ma gynno fi hanner marathon Gaerdydd i wneud ym mis Hydref a ma' bob un ohono ni fel arweinwyr yn gneud hwnna," ychwanegodd.

"Ag 'da ni'n mynd i fyny Pen-y-Fan efo'n gilydd, 'da ni'n mynd i fyny'r Wyddfa efo'n gilydd, ma' 'na gôl 'da ni wedi gosod i'n gilydd, 'da ni'n gwneud petha efo'n gilydd a dim ond felna 'da ni di lwyddo, bo' ni'n gefn i'n gilydd ond hefyd bo' ni'n gosod golia penodol hefyd sy'n mynd i sicrhau bo' ni'n glynnu at y cynllun."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.