Dim ciw i weld Cyw: Dim ond 'angen troi fyny' yn Steddfod yr Urdd eleni

Fydd yna ddim ciw am docyn i weld Cyw gyda phlant a rhieni wedi eu gwahodd i “droi i fyny” yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Ar gyfer y rheiny fydd yn ymweld â’r Maes yn Llanymddyfri eleni, ‘Yr Adlen’ fydd y lle i fynd er mwyn cael gweld sioeau Cyw a Stwnsh – a does dim angen tocyn.
Am y tro cyntaf erioed bydd holl ffrindiau Cyw yn ymuno yn y sioe hefyd, sydd yn cynnwys Plwmp, Deryn, Jangl, Triog, Bolgi a Llew.
Ar gyfer y plant hŷn bydd criw Stwnsh hefyd yn cynnal gweithgareddau a gemau ar hyd y Maes ac yn Yr Adlen.
Dywedodd comisiynydd plant S4C, Sioned Geraint: “Rydym yn hynod o falch gallu cyflwyno ffordd mwy hygyrch a haws er mwyn caniatáu hyd yn oed mwy o blant i gael mynediad at sioeau Cyw a Stwnsh ar faes yr Urdd eleni.
“Does dim angen ciwio ben bore am docyn, ‘mond troi fyny mewn pryd ar gyfer y sioe. Bydd hefyd mwy o le ar gyfer mwy o blant i’w mynychu.”
Fe fydd gan S4C babell ar wahân ar y maes a bydd croeso i Eisteddfodwyr alw draw i ddysgu mwy am raglenni’r sianel a sut i wylio ar ein gwahanol blatfformau, medden nhw.
Uchafbwyntiau
Bydd S4C hefyd yn darlledu’r holl gystadlu o’r pafiliynau Coch, Gwyn a Gwyrdd yn fyw ar S4C Clic gan ddechrau am 8:00 y bore hyd at ddiwedd y cystadlu.
Bydd modd gwylio’r cyfan ar eich ffôn, tabled neu deledu clyfar, ond gwasanaeth byw yn unig fydd hwn ac ni fydd ar gael ar alw.
Trystan Ellis-Morris a Heledd Cynwal fydd yn rhoi blas o ddigwyddiadau’r dydd gan gynnwys yr holl ganlyniadau, cyffro’r Maes a chynnwrf gefn llwyfan.
Bydd darllediadau dyddiol ar S4C o’r Maes rhwng 10:30 a 18:00, a bydd y rhaglen uchafbwyntiau gyda’r hwyr am 20:00.