Newyddion S4C

Tân Tregaon

Hofrennydd tân yn cael ei ddefnyddio wrth i danau gwyllt ‘beryglu eiddo’ yng Ngheredigion

NS4C 26/05/2023

Mae hofrennydd tân wedi cael ei ddefnyddio i ddiffodd tân gwyllt yng Ngheredigion sydd wedi gorfodi rhai trigolion i adael eu tai.

Cafodd diffoddwyr tân o orsafoedd Tregaron, Aberystwyth a Llanbedr eu galw i Dolgoch, ger Tregaron, ddydd Iau ar ôl adroddiadau o dân gwyllt

Mae nifer o danau gwyllt sylweddol wedi eu hadrodd yn yr ardal dros y tridiau diwethaf, gyda’r mwyaf yn cael ei gychwyn ddydd Mercher.

Roedd rhaid i ddiffoddwyr defnyddio saith peiriant mawr, cerbyd pob tirwedd a pheiriant niwl am dros wyth awr i ymladd tân gwyllt mawr mewn eithin a rhedyn.  

Mae’r gwasanaeth yn dweud fod y tân yn beryg i eiddo, ac fe oedd rhaid i rai trigolion gadael eu cartrefi o ganlyniad.

Bu’r criwiau hefyd yn gweithio i atal y tân rhag lledu i goedwig fawr gerllaw sy’n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

'Sych'

Roedd y tân wedi ei ddiffodd yn llwyr wrth ail-ymweld â'r safle'r bore trannoeth, ond fe gafodd ei ailgynnau erbyn y prynhawn oherwydd y tywydd poeth ac amodau gwyntog.

Fe benderfynodd y gwasanaeth, mewn cydweithrediad â CNC, i alw’r hofrennydd tân gwyllt i gynorthwyo criwiau i fynd â’r afael â’r tanau gwyllt sylweddol ar dir heriol. 

Cafod y tân ei ddiffodd o fewn dwy awr.

Mewn datganiad, dywedodd lefarydd ar ran y Gwasanaeth: “Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am atgoffa’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus dros yr wythnosau nesaf wrth i’r cyfnod o dywydd cynnes a sych barhau. 

“Yn ystod yr haf, gall glaswellt a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy'n golygu y bydd tân y byddwch yn ei gynnau'n fwriadol neu'n ddamweiniol yn yr awyr agored yn ymledu'n gyflym dros ben, gan ddinistrio popeth sydd o'i flaen. 

“Mae gwybodaeth diogelwch ar danau agored ar gael ar wefan y Gwasanaeth. Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.