Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhont-y-clun

Mae’r dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar Heol y Bont-faen, Pont-y-clun ddydd Mawrth wedi’i enwi gan yr heddlu.
Roedd Jason Griffiths yn 51 oed ac yn dod o Faesycwmer.
Mae teulu Mr Griffiths wedi cyhoeddi teyrnged iddo, gan ddweud: “Jason oedd ein popeth ni. Roedd yn wr, tad, mab, brawd, a thad-cu ac mae wedi cael ei gymryd yn llawer rhy gynnar. Bydd yn byw am byth yn ein calonnau a ni fydd fyth yn cael ei anghofio.
“Ni all unrhyw beth esbonio’r golled rydyn ni’n ei theimlo ar hyn o bryd. Roedd yn berson mor gyfeillgar ac roedd ganddo galon o aur, byddai'n gwneud yr hyn a allai i helpu unrhyw un.
“Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei wraig a’i deulu.”
Dywedodd ei fab Ben: “Does dim digon o eiriau’n gallu disgrifio’r tristwch a’r golled rydw i’n ei deimlo ar hyn o bryd. Mae colli tad cariadus yn sydyn y tu hwnt i eiriau. Byddaf yn dy garu am byth ac rwy'n dy golli di gymaint.”
Roedd Jason Griffiths yn gweithio yng Ngwesty’r Vale fel Cynorthwyydd Cynnal a Chadw.
Dywedodd Stephen Leeke, Rheolwr Gyfarwyddwr The Vale Resort: “Cawsom sioc ac mae tristwch mawr o glywed am y ddamwain drasig yn ymwneud â Jason, un o’n haelodau gwerthfawr o staff. Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu ar yr amser anodd yma.”
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd o’r digwyddiad i gysylltu, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2300167626.