Caniatáu adeiladu pentref gyfan newydd o 900 o dai yn y cymoedd

Bydd pentref gyfan newydd o 900 o dai ar gyn-safle ddiwydiannol yn cael ei adeiladu yn y cymoedd.
Mae'r cynlluniau yn ymwneud â safle ffatri Nylon Spinners ym Mamhilad, sydd i'r de ddwyrain o Bont-y-pŵl.
Daeth y gwaith cynhyrchu i ben yn y ffatri yn 2003, ac fe gafodd yr adeilad ei rhestru dwy flynedd yn ddiweddarach.
Bydd y cynllun yn cynnwys ysgol gynradd newydd ar gyfer 315 o blant y pentref newydd sbon.
Cafodd y cynlluniau cychwynnol i ddatblygu'r safle eu caniatáu gan Gyngor Bwrdeistref Torfaen ym mis Gorffennaf 2020, ond yna fe arafodd pethau oherwydd y pandemig.
Y llynedd fe wnaeth yr ymgeiswyr Johnsey Estates gyflwyno nifer o newidiadau i'r cynlluniau a gafodd eu cymeradwyo, ond fe gafon nhw eu caniatáu gan y pwyllgor cynllunio ddydd Iau.
'Cyfrifoldeb'
Dywedodd pennaeth cynllunio'r cyngor, Richard Lewis, mai'r newid mwyaf arwyddocaol oedd bod y mynediad, a oedd o gylchfan newydd ar yr A4042, bellach yn cael ei newid i fod yn un o gyffordd wedi ei rheoli gan oleuadau traffig.
Bydd yna hefyd ganolfan gymunedol a fydd yn cynnwys siop a neuadd gymunedol yn ogystal â chaffi.
Bydd yr holl adeiladau ar safle Parke Davis yn cael eu dymchwel, ond bydd ardal yn eu canol yn cael eu cadw fel parcdir.
Ychwanegodd Mr Lewis: "Mae doctoriaid a deintyddion angen ardal fawr a'r gobaith ydi oherwydd y bydd yna hyd at 900 o dai, y bydd hyn yn ddeniadol i bobl adleoli, ond hefyd, cyfrifoldeb y bwrdd iechyd ydi hynny."
Yn ogystal â gwario arian ar yr adeilad rhestredig, bydd rhaid i ddatblygwyr ddarparu'r cyngor gyda £2 filiwn er mwyn gwella a datblygu llwybrau cerdded a beicio y tu hwnt i'r safle, a byddant hefyd yn darparu £500,000 dros dair blynedd i gefnogi gwasanaethu bws.
Cafodd y pwyllgor glywed hefyd bod y cyngor wedi eu bodloni na fyddai yna unrhyw ffosffad ychwanegol yn mynd i mewn i'r afon yn sgil adeiladu'r tai newydd.