Covid-19: Teithwyr o’r DU i Ffrainc yn gorfod hunanynysu

Mae Ffrainc wedi gosod cyfyngiadau ar deithwyr o’r Deyrnas Unedig yn sgil pryderon am ledaeniad amrywiolyn India Covid-19.
Mae’r rheolau newydd yn golygu bod teithwyr i Brydain yn gorfod hunanynysu am o leiaf saith diwrnod a chyflwyno prawf negyddol Covid-19.
Trydarodd Clement Beaune, is-weinidog Materion Ewropeaidd Ffrainc, y bydd rhaid i ymwelwyr gyflwyno prawf negyddol Covid-19 llai na 48 awr cyn teithio i’r wlad, meddai Wales Online.
Mae disgwyl i’r rheolau newydd ddod i rym ddydd Llun, 31 Mai.
Darllenwch y stori’n llawn yma.