
Datgelu cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i adnewyddu Marchnad Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynlluniau ar gyfer gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd er mwyn adnewyddu Marchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd.
Mae’r cynlluniau yn dibynnu ar sicrhau cyllid a chaniatâd cynllunio.
Byddai’r cynlluniau yn cadw’r adeilad Rhestredig Gradd II* a’i ddiogelu at y dyfodol, gan adfer y nodweddion dylunio gwreiddiol, a chyflwyno ardal eistedd newydd ar y llawr gwaelod ar gyfer bwyta.

Ar hyn o bryd mae’r farchnad yn gartref i 61 o fusnesau annibynnol, gan gynnwys siop lysiau traddodiadol, cigyddion a gwerthwyr pysgod, stondinau bwyd stryd, cynhyrchwyr crefftus, stondinau dillad, cerddoriaeth a mwy.
Mae’r farchnad denu 2.2 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae cwsmeriaid wedi bod yn ymweld â Marchnad Caerdydd ers dros ganrif.
"Nod ein cynlluniau adnewyddu helaeth yw sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy i'r adeilad, cadw a gwella ei dreftadaeth, a sicrhau ei fod yn parhau yn ganolfan brysur yng nghanol y ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."
Fe wnaeth y farchnad agor yn 1891, ac mae Cyngor Caerdydd, sy’n berchen ar y farchnad, hefyd yn bwriadu cyflwyno a rhannu ei hanes yn well gan ddefnyddio straeon gweledol.
Bydd y farchnad yn parhau ar agor drwy gydol y gwaith, gyda rhai masnachwyr yn cael eu hadleoli i lety cyfagos dros dro.
Os bydd yn llwyddiannus, disgwylir i'r gwaith ddechrau yn Haf 2024 a chymryd tua dwy flynedd i'w gwblhau.