Newyddion S4C

Argymhelliad i dynnu cladin oddi ar fflatiau yn Noc Fictoria Caernarfon

24/05/2023
Doc Fictoria

Mae penaethiaid gwasanaeth tân wedi argymell tynnu cladin oddi ar adeiladau yn Nociau Fictoria yng Nghaernarfon.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn gweithio gyda thrigolion fflatiau yno ar ôl canfod problem gyda chladin.

Daw hyn bron i chwe blynedd ers trychineb Grenfell yn Llundain, ble fu farw 72 o bobl mewn tân mewn tŵr o fflatiau.

Fe wnaeth y digwyddiad codi cwestiynau am y defnydd o'r math o gladin sy’n gorchuddio rhai adeiladau.

Mae’r gwasanaeth wedi cadarnhau fod y broblem cladin yn Noc Fictoria ymwneud ag ardaloedd preswyl ar y safle.

Dywedodd Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân ac ardal gorllewin Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae problem wedi codi gyda’r cladin yn Noc Fictoria Caernarfon ac mae argymhelliad wedi ei wneud i’w dynnu. Rydym yn parhau i weithio gyda grŵp trigolion ac awdurdodau i ddatrys y problemau a chadw pobl yn ddiogel.”

Byddai gwaith i newid y cladin yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd.

Cafodd y datblygiad ei gwblhau gan gontractwyr Watkin Jones yn 2006.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp: “Mae Watkin Jones yn gweithio i ail-edrych ar holl waith cladin ar draws ein portffolio gwaddol ac yn gweithio gyda chleientiaid a thrigolion i sicrhau fod yr holl adeiladau yr ydym yn gyfrifol amdanynt yn ddiogel.

“Yn achos Doc Fictoria, Caernarfon, rydym yn gweithio gyda’r grŵp sydd yn rheoli’r safle ar ran y perchennog, Residential Management Group Ltd, i nodi a chwblhau unrhyw waith adferol sydd ei hangen.”

Yn sgil Grenfell, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb gyda datblygwyr ar gyfer cynllun i ddatrys diffygion diogelwch mewn adeiladau uchel ac uchder canolog yn gynharach eleni

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.