Teyrngedau teuluoedd i ddau fachgen fu farw yn Nhrelái
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau fachgen fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrelái.
Mae'r ddau fachgen bellach wedi eu henwi yn swyddogol fel Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16, a oedd yn ffrindiau gorau.
Yn dilyn y gwrthdrawiad, fe ymgasglodd cannoedd o bobl yn yr ardal, cafodd ceir eu rhoi ar dân, a chafodd tân gwyllt a gwrthrychau eraill eu taflu at yr heddlu.
Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i'r hyn arweiniodd at y gwrthdrawiad am oddeutu 18:00 nos Lun.
Mae'r llu wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn y digwyddiad.
'Calonnau wedi torri'
Dywedodd teulu Harvey "bod eu calonnau wedi eu torri wedi marwolaeth sydyn Harvey, ein mab, wyr, brawd, nai, ffrind a chariad annwyl.
"Roedd yn byw bywyd i'r eithaf ac roedd ganddo galon fawr. Roedd yn ffrind gorau i Kyrees, mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i deulu ef hefyd."
“Rydym yn gofyn am heddwch o fewn ein cymuned ac yn gofyn fod pobl yn gadael yr ymchwiliad i’r heddlu fel y gallwn ni gael yr atebion sydd eu hangen arnom er mwyn iddo orffwys mewn hedd.
“Fel mam Harvey, dwi eisiau cofio ein mab fel yr un cariadus a hwyliog oedd o, a ddim fel yr un mae’r wasg yn ei bortreadu ar hyn o bryd.”
“Roedd ei fam-gu a’i dad-cu, ei fodrybedd a’i ewythrod a’i gefndryd yn ei garu.
Dywedodd teulu Kyrees ei fod yn "ddyn ifanc annwyl, yn fab cariadus i Belinda a Craig, yn frawd bach i Aleah a Jordan ac yn ewythr 'KyKy' arbennig i Myra."
“Roedd o a Harvey, a Niall hefyd, yn ffrindiau gorau ers yn ifanc ac yn mynd i bob man gyda’i gilydd, roedd gan y ddau gymaint o ffrindiau ac yn hoff iawn o wneud sawl peth gyda’i gilydd.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r wrthdrawiad ffordd ddifrifol a’r anhrefn ddigwyddodd yn ddiweddarach nos Lun.