'Pryder dirfawr' am gynllun posib i gartrefu dros 300 o geiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli

Mae'r Swyddfa Gartref yn ystyried defnyddio gwesty yn Llanelli i ddarparu llety i dros 300 o geiswyr lloches.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn dweud eu bod yn "poeni'n ddirfawr" am y cynllun ar gyfer Gwesty Parc y Strade.
Mae nhw'n dweud y byddai'n cael effaith ddifrifol ar y gymuned leol, yn ogystal â gwasanaethau fel ysgolion a gwasanaethau iechyd lleol. Yn ogystal, mae nhw'n poeni am risgiau posib i'r ceiswyr lloches eu hunain.
Yn ol arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price nid yw'r lleoliad yn un addas.
“Rydym ni yn Sir Gâr yn sir groesawgar ac mae gyda ni hanes llwyddiannus o ran cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid," meddai.
“Rydym ni eisoes wedi rhoi cartref i nifer sylweddol o aelwydydd sy’n ceisio lloches o Syria, Affganistan, Wcráin a llefydd eraill, ond cyflawnwyd hynny trwy ddull o gydlynu a chynllunio. Dyna’r rheswm mae'r lleoliadau hynny wedi bod yn llwyddiannus.
“Fel Cyngor, mae gyda ni bryderon difrifol ynghylch bwriad y Swyddfa Gartref i letya dros 300 o geiswyr lloches mewn un man, sef Gwesty Parc y Strade.
"Rydym ni o’r farn bydd hynny’n cael effaith niweidiol ar y gymuned leol ac yn rhoi straen enfawr ar wasanaethau addysg ac iechyd. Hefyd rydym ni’n credu byddai cartrefu cynifer o bobl yn y lle eithaf cyfyngedig hwn yn arwain at broblemau o ran lles y ceiswyr lloches eu hunain.”
Cysylltiad
Dywedodd y cyngor nad oeddynt wedi derbyn cysylltiad cyson gan y Swyddfa Gartref a'u bod wedi "diystyru’r holl bryderon dilys."
"Er nad yw’r Cyngor wedi gweld y cynllun manwl, mae'r ymgysylltu â’r Swyddfa Gartref hyd yn hyn wedi bod yn anghyson ac wedi diystyru’r holl bryderon dilys.
"Mae'r bwriad a'r ymgysylltu gan Clearsprings (darparwr tai preifat y Swyddfa Gartref) wedi bod yn siomedig, a nid yw hynny’n rhoi unrhyw hyder i’r Cyngor bod Clearsprings yn deall y cyd-destun lleol neu genedlaethol maent yn bwriadu gweithio ynddo.
"Bydd y Cyngor a’i bartneriaid sector cyhoeddus yn cadw mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref ynghylch y mater hwn, gyda golwg ar argymell yn gryf nad ydynt yn bwrw ymlaen â'r bwriad hwn ac i barhau â’r gwaith gwych o ddarparu’r model gwasgaru a ddefnyddir ar hyn o bryd i ailsefydlu ceiswyr lloches gyffredinol a rhai o Syria, Affganistan ac Wcráin yn Sir Gâr."
Mae AS Llanelli, Nia Griffith wedi mynegi pryder hefyd.
“Mae'n gywilyddus bod y Swyddfa Gartref yn chwilio am fwy fyth o lety mewn gwesty, ac yn disgwyl i'r Cyngor Sir, er yr holl gyfrifoldebau eraill sydd ganddo, i gamu i mewn a darparu'r gwasanaethau angenrheidiol," meddai.
"Rwy'n deall yn iawn pam mae pryderon posib gan drigolion lleol, a bydda' i'n eu codi gyda'r Swyddfa Gartref.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cefnogi’r uchelgais o ehangu lloches yng Nghymru ond mae’n rhaid bwrw ymlaen â chynlluniau o’r fath yn ofalus i sicrhau eu bod yn cefnogi cydlyniant cymunedol ac integreiddio effeithiol.
“Rydym felly’n disgwyl i’r Swyddfa Gartref weithio gyda ni a llywodraeth leol i chwilio am ffordd adeiladol ymlaen.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref am ymateb.
Llun: Google