Newyddion S4C

Dim ymchwiliad i'r modd y deliodd Suella Braverman â'i hachos gor-yrru

24/05/2023
Suella

Mae Rishi Sunak wedi dweud na fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r modd y deliodd Suella Braverman â throsedd gor-yrru yn ei herbyn. 

Yn ôl y Prif Weinidog, doedd yr Ysgrifennydd Cartref ddim wedi torri rheolau i weinidogion y llywodraeth.  

Cafodd Suella Braverman ei dal yn gyrru'n rhy gyflym y tu allan i Lundain y llynedd, a gofynodd i weision sifil am gyngor ar drefnu cwrs gyrru ar ei chyfer hi yn unig. 

Galwodd y gwrthbleidiau am ymchwiliad, er mwyn darganfod a oedd hynny yn groes i'r rheolau ar gyfer gweinidogion.  

Ond ar ôl trafod â'i ymgynghorydd moeseg, dywedodd Mr Sunak nad oedd o'r farn bod angen ymchwiliad.

Yn ôl adroddiadau ddydd Sul, roedd Mrs Braverman wedi gofyn i staff i’w helpu i drefnu cwrs ymwybyddiaeth cyflymdra iddi hi yn unig. 

Fe wrthododd swyddogion y cais, ac yn ôl adroddiadau, trodd Mrs Braverman at gynorthwyydd gwleidyddol i geisio ei helpu i ddod i drefniant lle na fyddai’n gorfod mynd ar gwrs gyda gyrwyr eraill. 

Roedd hynny’n cynnwys y posibilrwydd o gwblhau cwrs ar-lein o dan ffug enw, neu gyda'r camera wedi ei ddiffodd.

Yn y pen draw, fe benderfynodd dderbyn y triphwynt ar ei thrwydded.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.